Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cymdeithaseg a Diwinyddiaeth ASTUDIAETH wyddonol o gymdeithas yw Cymdeithaseg— yn union fel y mae Bioleg yn astudiaeth wyddonol o fywyd a Seicoleg yn astudiaeth wyddonol o'r meddwl. Gwyddor ifanc iawn yw hi. Er bod athronwyr mawr y byd wedi dadlau'n ben- dant iawn o dro i dro ar natur cymdeithas, o wahanol safbwyntiau ymbalfalu athronyddol a gafwyd ganddynt ar y pwnc yn hytrach na gwybodaeth. Ond wedi i Gymdeithaseg gael ei thraed dani a chael crap sicr ar yr egwyddorion sy'n rheoli natur a thwf cym- deithas rhwng dynion a'i gilydd ar yr aelwyd, yr ysgol a'r capel, mewn diwydiant a masnach, mewn gwleidyddiaeth, dinasyddiaeth ac adloniant, etc., bydd corff o wybodaeth oleuedig am gym- deithas,­yr egwydorion sylfaenol sydd wrth wraidd cymdeithas,- beth sydd yn ei hybu a pheth sy'n ei lesteirio, wrth law i'r diwinydd. Ond beth am hynny? Dibynna'r ateb ar safbwynt y diwinydd. Yn anffodus, y ffasiwn mewn diwinyddiaeth ers llawer blwyddyn bellach yw ystyried gwybodaeth wyddonol fel gwybod- aeth ddynol-yn ymwneud ag allanolion pethauJn unig-y gweledig a'r darfodedig. Â'r hyn y mae Duw yn ei wneud a'i ddweud y mae a wnelo'r diwinydd, meddent hwy. Hwyrach mai dyma paham y maent ar hyn o bryd mewn amryfusedd gwaeth na phroffwydi Baal gynt ar fynydd Carmel. Eu problem hwy oedd sut i ddeffro Duw a oedd wedi cysgu ond problem diwin- yddion heddiw yw sut i ddadebru Duw sydd wedi marw! Ond i'r diwinydd sy'n barod i wynebu sialens Epistol Pedr, 'Eithr sancteiddiwch yr Arglwydd Dduw yn eich calonnau, a byddwch barod bob amser i ateb i bob un o ofynno i chwi reswm am y gobaith sydd ynoch' (1 Pedr 3: 15), y mae lIe i obeihio y bydd Cymdeithaseg, pan ddaw i'w hoed, yn llaw-forwyn tra gwasan- aethgar. Awgrymaf dri maes lle y gall astudiaeth wyddonol o gym- deithas roddi arweiniad gwerthfawr a diogel i'r diwinydd Cristnogol. (1) Natur Crefydd-cynukithas rhwng Duw a dyn yw crefydd. (2) Natur Duw ei Hunan­‘ Cariad yw Duw,' h.y., cymdeithas rhwng tri pherson yw Duw'r grefydd Gristnogol.