Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Eiiuan üames (Gol.), Cerddi '72 (Gwasg Gomer,, 75c); H. Gehaint Ghuffydd (Gol.), Cerddi '73 (Gwasg Gomer, £ 1.00). Rhwng y ddwy gyfrol hyn oynhwysir cant a thrigain a dwy o gerddi (a chyfrif englynion unigol yn ogystal â chadwyni englynion), gwaith pedwar ugain ac wyth o feirdd. O ran dulliau'r dethol a'r golygu y mae'r ddwy'n gwahaniaethu rhyw gymaint oddi wrth ei gilydd: yn wahanol i'w rhag- Haenydd, ac i gyfrolau eraill y gyfres, rhoes Cerddi '73 flaenoriaeth i ddefnydd a oedd eisoes wedi ei gyhoeddi, beth ohono rhwng cloriau llyfrau hyd yn oed; rhoes lwyfan i fwy o feirdd ifainc nag a welwyd gyda'i gilydd o'r hlaen yn yr un o gyfrolau'r gyfres; ac yn sicr bu ar ei hennill, o ran sbonc beth bynnag am arddunedd, o roi fath le anrhydeddus i George Thomas a Iago Flaca, Miss J. M. Davies a Dewi Pws. Eto, ac er gwaetha'r ffaith mai dim ond un ar hugain o'r beirdd, llai na chwarter y oyfanrif, sydd â pheth o'u gwaith yn y naill gyfrol a'r llall, ni roddir argraff a ryw wahan- iaeth trawiadol rhwng cynnyrch '72 a chynnyrch '73. Yn eu tro, tuedda'r ddwy gyfrol gyda'i gilydd i gadarnhau patrwm a fu'n weddol amlwg er pan ymddangosodd Cerddi Heddiw ym 1968. Pan ystyriwn ddewisiad y beirdd o ffurfiau, gwelwn mai'r wers rydd sy'n mynd â hi o gryn dipyn, a'r mesurau acennog, rheolaidd yn cystadlu bron yn gyfartal am yr ail le â'r mesurau caeth traddodiadol (a'r englynion, wrth gwrs, yn cyfrannu tipyn at chwyddo nifer y math olaf). Pedair soned a geir, rhwng y ddwy gyfrol, a phrinhau y mae'r cerddi o benillion twt, odledig, chwech neu wyth llinell, y bu'n arfer gennym, braidd yn gam- arweiniol, cu galw yn delynegion. Nid prawf ddarfod oladdu'r delyneg mo enciliad y ffurf arbennig hon,, oherwydd a bod yn fanwl nid term ffurf yw telyneg yn gyntaf nac yn bennaf, ond tenn modd. A deall y term yn y ffordd gywir, baich tystiolaeth Cerddi '72 a Cerddi '73 yw bod y delyneg yn fyw dros ben. Telynegion o ryw fath neu'i gilydd yw mwyafrif llethol y cerddi yn y ddau gasgliad, ond creir rhyw gymaint o amrywiaeth gan ychydig o gerddi mawl ar wedd oyfarch, a cherddi dychan a thynnu eoes. Tybed a yw'n arwyddocaol mai cyfieithiadau a chyfaddasiadau (fersiwn Saunders Lewis o Bawcis a Philemon, a fersiwn Derec Llwyd Morgan o ran o'r Iliad) yw'r enghreifftiau mwyaf nodedig yma o'r hyn a elwir weithiau wrth yr enw Groegaidd epos, sef barddoniaeth sy'n adrodd wrth gynulleidfa am ddigwyddiad, ac yn rhagdybio (nid heb arfer peth o dwyll oyfreithlon celfyddyd) bod y digwyddiad ag ystyr ynddo'i hun, ystyr nad yw'n ddibynnol, fel yn y delyneg, ar ymateb personol y bardd? Yna beth am bynciau'r canu? Nid oedd angen dewin i ragbroffwydo beth fyddai'r pwnc unigol mwyaf poblogaidd: argyfwng parhad y bobl Gymreig, fel yr amlygir ef ym mrwydr yr iaith. Y mae hwn yn torri'n glir ar draws y rhaniadau modd; fe'i ceir mewn telynegion, mewn cerddi cyfarch ac mewn cerddi dychan fel ei gilydd. A'r peth hwn fel rheol yw'r allwedd