Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y canu her a deHroad, a delweddaeth gwanwyn a thwf (yng nghyswllt yr argyfwng Cymreig), peth sydd erbyn hyn wedi mynd yn gymaint ystrydeb ag yr oedd galamadu a chwynfan (yn yr un cyswUt) ym marddoniaeth y pumdegau; neu'r canu mynych am Y Gerdd a'r broses greadigol ei hun, peth sydd, rhaid cyfaddef, yn dueddol o fynd yn fwrn weithiau, er nad yw amlder ymddangosiad y thema hon yn rhwystr yn y byd i ganu cerdd dda o'i chylch. Wel, yn y ddau achos yna nid y beirniaid sydd wedi creu'r ffasiwn, boed honno ynddi ei hun yn dda neu'n ddrwg. Y gwir gwrth- rychol, hanesyddol yw fod beirniadaeth lenyddol Gymraeg heddiw yn fwy disgrifiadol ei natur, neu os mynnir yn llai deddfwriaethol, yn llai prescriptive, chwedl y Sais, nag y bu hi erioed o'r blaen yn ei hanes. Pwynt arall, llai pwysig, ond perthnasol, mi dybiaf i, yw mai ychydig iawn o sylwadaeth sydd i'w gweld yn y cyfnodolion Cymraeg heddiw, ar farddoniaeth newydd a chyfoes, gan leygwyr o feirniaid, rhai nad ydynt feirdd eu hunain. Y beirdd, fel rheol, sy'n adolygu gwaith ei gilydd-a'i wneud yn dda hefyd. Rhyngddynt hwy a'i gilydd y llunnir consensws a ffasiwn. Ac mi awgrymwn i ymhellach mai barddoniaeth ei hun sy'n bennaf cyfrifol am bennu'r tuedd- iadau, nid unrhyw sylwadau arni gan neb, boed fardd neu ddehonglwr. Rhydd Cerddi '72 a Cerddi '73 sail i dybio mai Euros Bowen, os neb o gwbl, yw'r dylanwad cryfaf ar ei gyd-feirdd o Gymry erbyn hyn. Ond ei lais ei hun a'i gwnaeth felly, nid argymhelliad neb arall. Cymaint â hynna o fentro barn mewn ymateb i sylwadau bywiog un o'r ddau olygydd. Beth am fy ymateb i'r cerddi? Dyma fi wedi darllen y ddwy gyfrol, droeon, er mwyn eu hadolygu. A ddarHenaf hwy eto yn fy oes? Y mae'n bur bosib, waeth cyfaddef mwy na pheidio, na ddarllenaf byth mohonynt eto o glawr i glawr. Fe'u cadwaf yn barchus ddigon, a'u codi weithiau i ddarllen ambell gerdd a hoffaf yn fwy na'i gilydd. Nid anghlod i'r ddwy gyfrol, mwy nag i'w rhagflaenwyr, yw dweud hyn, oherwydd ein tuedd naturiol, bawb, yw gwneud ein detholiad bach ein hunain o bob detholiad. Am ansawdd y canu'n gyffredinol, ac edrych arno yn awr nid yn gymaint fel cwsmer ag fel efrydydd hanes llenyddiaeth, bodlonaf ar osod cwestiwn: pe buasai yna'r fath beth â Cherddi '02, neu 10, neu 27, neu 36, neu 57 (a thebyg y cytunir bod y rhain yn flynyddoedd ffrwyth- lonach na'r rhelyw yn hanes llenyddol Cymru'r ganrif hon) a fyddai'r rheini mewn difrif yn rhagori ar y ddwy gyfrol dan sylw, o safbwynt crefft, ac o safbwynt yr amrywiaeth a'r unrhywiaeth thema sydd, yn baradocsaidd, mor angenrheidiol a'i gilydd, ac sydd, gyda'i gilydd, yn arwydd iechyd? DAFYDD GLYN JONES. HYWEL D. Lewis, The Self and Immortality (Macmillan, 1973). Pris .e3.95. Y mae myfyrdodau'r gyfrol hon yn cydredeg â'r gwaith mwy sydd gan yr Athro Hywel D. Lewis mewn llaw ar hyn o bryd, sef ei Gifford Lectures.' Daeth y gyfrol gyntaf allan eisoes o dan y teitl The Elusive Mind (a adolygwyd yn Y TRAETHODYDD, Ebrill 1971), a gobeithiwn weld yr ail gyfrol cyn hir. Cyfeiriaf at γ Gifford Lectures' gan mai ynddynt hwy