Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y maer naill yn achosi'r Uaü. Cyfeiria'r awdur at y modd y mae pêl, wrth deithio i gyfeiriad pelen arail, yn ei tharo a'i gwthio, ac ychwanega, it is in the same way that mental processes supervene upon physical ones and make a düference to the outcome (t. 67). Yn sicr, nid trwy wthio'r iraich y mae'r ewyllys yn ei symud, fel y cytuna'r Athro, 'rwy'n sicr; felly, fe ddisgwyliwn iddo gytuno heiyd nad trwy sylweddoli fod symudiad y fraich yn dilyn yn rheolaidd y penderfyniad i'w symud y gwelwn ym mha fodd y mae'r naill beth yn achosi Üail, na hyd yn oed bod y naill yn achosi'r llall. Os tybir fod yma achosiaeth, yna fe ddylid cydnabod yr hawl i ofyn sut y mae'r naill yn achosi'r llall, ac anhawster y deuolwr, mi dybiaf, ydyw cydnabod y cwestiwn yna heb ollwng ei ddeuoliaeth. Gilbert Ryle sydd yn cael fwyaf o sylw yn y bennod ar drafodaethau diweddar o broblem yr hunan. Awgrymodd Ryle ddadansoddiad o weith- rediadau byd y meddwl yn nhermau tueddiadau i weithredu'n gorfforol mewn dulliau arbennig o dan amodau arbennig, rhywbeth yn debyg i'r modd y gellid dadansoddi'r syniad o freuder yn nhermau tuedd y peth brau i falu pan gaiff ei guro. Beirniadaeth ddeifiol ar ddamcaniaeth Ryle, yn ôl yr awdur, ydyw'r un sydd yn tynnu sylw at y ffaith fod unrhyw sylweddol- iad o'r tueddiadau y sonia Ryle amdanynt, hefyd yn brofiad ymwybodol ynddo ei hun, ac nid yw damcaniaeth tueddiadau yn abl i roi cyfrif am yr ymwybyddiaeth honno. Yn sicr y mae llawer o'i le ar ddamcaniaeth Ryle fel y datblygwyd hi yn ei lyfr enwog, The Concept of Mind, ac fe geir sylwadau treiddgar ar rai ohonynt yn y bennod hon. Er bod penodau 5, 6 a 7 yn cyfIwrdd ag aml ochr i lawer pwnc, megis cwestiwn y syniad o ail ymgnawdoliad sydd mor bwysig yn rhai o'r cref- yddau dwyreiniol, a chwestiwn atgyfodiad y corff mewn bywyd ar ôl marw, y cwestiwn canolog yw cwestiwn parhad yr hunan. Nid yw hwn yn gwestiwn hawdd pan ofynnir beth yw'r sail dros ddweud mai'r un un yw dyn dros gyfnod yma ar y ddaear heb sôn am gwestiwn ei barhad fel yr un un ar ôl marw. Beth sydd yn sicrhau mai'r un un fydd hwn a hwn yn y byd a ddaw â rhyw berson arbennig a fu byw yma ar y ddaear? Beth yw sail parhad yr hunan? Y mae'r awdur yn hollol yn ei le pan ddywed fod hwn yn gwestiwn sylfaenol bwysig. Ac y mae yn ei Ie hefyd pan ddywed na wnaiff hi ddim o'r tro i ni apelio mewn ffordd arwynebol at barhad y corff. Ffactor holl bwysig yn y cyswllt hwn ydyw'r cof, ac fe roddir ymdriniaeth helaeth o'r dadleuon a fu yn ddiweddar ar y pwnc diddorol hwn. Fel hyn y mae'r awdur yn mynegi ei safbwynt ei hun ar y pwynt: I recall myself in the past event as the being I now find myself to be; and this establishes the completest identity we could have of myself, as I know myself now, and myself in the past" (t. 86). Un cwestiwn sydd yn codi ynglyn â'r cof yw hwn: sut y gellwch fod yn sicr mai cofio yr ydych pan dybiwch eich bod yn cofio? Byddwn weithiau yn meddwl ein bod yn cofio rhywbeth ac yna yn darganfod mai ffrwyth ein dychymyg oedd y cyfan. Sut, yng ngoleuni'r cwestiwn hwn, y gellir cytuno â'r awdur pan ddywed, but there is a case for saying that in memory we do have an assurance on which we feel entitled to rely, as