Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Sylwir hefyd ar y gwaith o ddarparu tri llyfr emynau ar gyfer enwad y 'Methodistiaid Calfinaidd, ac fel y gellid disgwyl, cyffyrddir ag amibeH ddadl ynglŷn â chywiro orgraff a diwinyddiaeth rhai o'r emynau. Trwy ddarllen yn fanwl y rhagymadrodd i ambell gasgliad, llwyddodd' yr awdur i lunio darlun cywir ac onest o gyflwr caniadaeth y cysegr ar adegau arbennig yn hanes y genedl. Gwir y dywedodd rhywun fod y Rhaglith faith i Llyfr Tanau Cynulleidfaol Ieuan Gwyllt (1859) lawn mor bwysig i'r hanesydd a'r cerddor ag ydyw oynnwys y gyfrol, er cystal hwnnw yn ôl safonau'r ganrif o'r blaen. Byrdwn rhan helaeth o ddarlith Mr. Williams yw bod canu synhwyrol, deallus (a dyfynnu Elfed), yn dyfnhau ein mawl ac yn perffeithio ein haddoliad." Yr un pryd, fe all hwyl y dôn beryglu urddas yr emyn, oni lwyddir i ddewis alaw sy'n llawforwyn deilwng a phriodol i wirionedd yr emyn hwnnw, yn ogystal ag i'r profiad a gaiiff ei fynegi ynddo. Yn y cyswllt hwn, ceir ambell berl yn y ddarlith y byddai o fantais i bawb sy'n ymwneud â chanu cynulleidfaol fyfyrio'n ddwys uwch ei phen. Wele ddwy enghraifft yn unig y gellid trafod eu sylwedd gan bob codwr canu ac organydd sy'n ystyried canu fel cyfrwng i dorri trwy'r llen at y Brenin Mawr: Rhythm tôn sydd yn bwysig" (t. 32), a Gwyddom nad y cynulleidfaoedd mawr bob amser biau'r canu gorau (t. 34). Gwir bob gair! Y mae rhai tonau yn y gwahanol gasgliadau enwadol y condemniwyd eu rhythm yn òl safonau'r ganrif o'r blaen, ac fe ẃyr pawb erbyn hyn ei bod yn bosibl i bedwarawd neu wythawd ganu mawl yn ddeallus! Tua diwedd y Ddarlith, y mae'r awdur yn trafod tueddiadau cyfoes mewn canu mawl, a gwelir yn eglur nad yw'n un o'r gweinidogion hynny sy'n anghymeradwyo defnyddio'r gitâr a dulliau cyfoes eraill mewn gwasan- aeth crefyddol. Meddai (tt. 36-37) Nid anfynych yr estynnwn wahodd- iad i bartïon bychain o fechgyn a genethod i gynnal gwasanaeth ar nos Sul. Canant emynau cyfarwydd a newydd i gyfeiliant gitâr. Nid dyma'r tro cyntaf i'r gitâr gael croeso yn yr eglwys. Diddorol yw cofio mai i gyfeiliant gitâr mewn eglwys Gatholig Rufeinig yn Awstria yn 1818 y canwyd gyntaf y garol fwyaf poblogaidd yn y byd: ''Dawel Nos' Argraffwyd y llyfryn yn lân a destlus gan Lyfrfa'r M.C., a'r unig lithriad hychan y sylwais i arno oedd y cyfeiriad at y Bad of Hope (!) ar dud. 26. Bangor. Htrw WtrjJAMS. R. Bryn Wii.uams. Agor (iLlyfrfa'r M.C., Caernarfon). 80c. Nofelig gan tudalen ydy hon ac mae'n dilyn un o nofelau eraill yr awdur, sef Y Rebel. Adroddai honno hanes un o arloeswyr Y Wladfa, gŵr ifanc o'r enw Dafydd. Sefydlodd fferm iddo'i hun yng Nghwm Hyfryd a chyd- fyw ag Indiad. Cafodd blentyn ohoni, ond ni pharhaodd y berthynas yn hir. Fe aeth y ferch i ffwrdd a mynd a'i phlentyn gyda hi a chafodd Dafydd ei droi o'r capel a'i alltudio o'r gymdeithas biwritanaidd Gymreig oherwvdd ei fod. vn eu harn nhw. wedi pechu.