Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hapusach pe bai wedi cyflwyno mwy o'r elfen ddramatig i mewn i ambell i baragraff, fel hwn, er enghraifft, sy'n disgrifio un o'r Cymry'n cael ei ladd: Wedi iddo gyrraedd i ganol y creigiau, llamodd oddi ar ei geffyl, a llechu tu ôl i graig fawr, ac oddi yno llwyddo i atal ei erlidwyr â'i wn. Ni wyddai fod Clem wedi dringo'r creigiau o'r tu ôl iddo. Cododd hwnnw ei rifolfer a'i saethu yn ei gefn. Disgynnodd y Cymro ar ei wyneb, aeth Clam at ei geffyl oedd yn sefyll gerllaw, ac wedi iddo gael y waled a'r arian a gwneud yn siwr fod y llall yn farw, rhoes arwydd i'r lleill ei ddilyn i gyfeiriad Cwm Hyfryd. Mewn man arall, lIe y mae Agar yn cael ei chwipio gan ei meistres, mae'n anodd inni gydymdeimlo â'r ferch ifanc gan fod y disgrifiad o'r anfadwaith mor foel. Credaf fod yr allwedd i'r ymatal hwn ym mharagraff cyntaf rhagair yr awdur i'w waith, "Ðiau y caf fy nghyhuddo o ddynwared Westerns poblogaidd, ond ni bydd hynny'n deg." A fyddwn i'n bersonol byth yn meddwl am wneud hynny-achos mae'r awdur eisoes wedi dangos inni pa mor debyg i fywydau arloeswyr Gorllewin America oedd bywydau'r arloeswyr Cymreig. A chan fod diddordeb yr Hen Wlad yn Y Wladfa fel pe bai ar gynnydd, fe fydd llawer ohonom yn siomedig na fyn R. Bryn Williams lunio nofel arall amdani. Coleg Addysg Caerdydd. W. J. JONES. H. J. Hughes (Gol.), Gwr wrth Gerdd (Gwasg Gomer). 90c. Pan ddaeth John Hughes i Sir Feirionnydd yn Drefnydd Cerdd y deuthum i i'w adnabod gyntaf. 'Roedd fy mrawd wedi dweud wrtho am gofio galw i'n gweld yn Nhywyn, a 'doedd John ddim yn un i anwybyddu cyfle o'r fath. Yn y bore y cyrhaeddai fel arfer, ar ei ffordd i un o ysgolion gwaelod y Sir. Cyrhaeddodd ·un tro a'i daclau siafio efo fo-heb gael amser i eillio cyn dal y trên yn Nolgeliau. Tyrd efo mi i Fryncrug," meddai wrthyf y bore hwnnw. ('Roedd o wrth ei fodd yn cael cynulleidfa, mewn ysgol neu rihyrsal.) A dyma gyfle imi ei weld yn trin plant ysgol wledig a'u cael i ddechrau ymgodymu, ar ei ymweliad cyntaf, â'r dasg o ganu alawon gwerin a cherddoriaeth glasurol. Ei weld wedyn yn arwain cymanfa luosog yng nghapel Bethel, Tywyn. Y lle'n orlawn o blant ysgolion y cylch, a John yn llamu i mewn drwy'r drws yn ochr y pulpud, ac yn landio yn y sêt fawr, yn He yn y pulpud. Gorfod troi yn ei ôl a rhoi naid i mewn i'r pulpud, yn wên i gyd, ac yn mwynhau'r camgymeriad lawn cymaint â'r plant. A'r fath afael oedd ganddo arnynt! Cenfigennai llawer o'r athrawon wrtho o sylwi ar yr ymateb a'r brwdfrydedd gan haid mor fawr o blant o bob oedran. Cofiaf un tro daro i mewn i rihyrsal o gôr bach gwledig a fyddai'n rhan o gôr mawr yn perfformio oratorio. Yr un brwdfrydedd a'r un trylwyredd yma eto, a'r bersonoliaeth gref yn disgyblu ac yn ysbrydoli. Ond gofid iddo oedd imi adael y rihyrsal cyn y diwedd. Byddai'n well imi fod wedi cyrraedd yn hwyrach ac aros tan y diwedd, meddai wrthyf amser swper. Oedd. 'rnedd o'n hoff ıı gynulleidfa. ac yn hoff o gael ei ganmol!