Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Marian HENRY Jones, Hanes Siloam, Brynaman (Gwasg Gomer, 1972). Yn anaml iawn yr anfonir cyfrol o hanes eglwys i'r TRAETHODYDD i'w hadolygu ac y mae hyn yn resyn, gan fod llawer o'r cyfrolau hyrt o ddiddor- deb cyffredinol, ac nid yw Cymru'n wlad mor fawr fel nad yw hanes hyd yn oed eglwysi pentrefi bychain yn ddiddorol i nifer go fawr. Heblaw hynny, mae rhai o'r cyfrolau yn gyfraniadau gwerthfawr i hanesiaeth ardaloedd cyfain, a gwn drwy brofiad beth ydyw dod i wybod am y cyfryw ar ôl iddynt gael eu gwerthu i gyd. Prin, felly, y disgwyliwn gael cyfrol o hanes yn perthyn i enwad y Bedyddwyr, Eglwys Siloam, Brynaman, a dichon na fuasem wedi cael hon chwaith oni bai fod yr awdur, Mrs. Marian Henry Jones, yn cofio fod gan y golygydd gysylltiadau agos ag ardal Brynaman. Beth bynnag oedd y rheswm am anfon copi adolygu, gallaf ddweud fy mod wedi cael pleser a budd mawr o'i ddarllen, oblegid er bod hanes cynnar Brynaman yn lled gyfarwydd i mi, ac er bod dau o weinidogion Siloam, y Parchn. J. Lee Davies ac S. J. Leeke, yn dipyn mwy nag enwau i mi, darganfûm yn fuan iawn wrth ddarllen y gyfrol hon fod fy anwybodaeth yn llawer mwy na'm gwybodaeth, a bod yr ychydig wyhodaeth a oedd gennyf yn llawer mwy gwerthfawr yn awr gan ei bod wedi ei gosod mewn ffrâm o hanes ehangach ac o'r herwydd yn fwy ystyrlon. Fe ellid disgwyl i hanesydd hyfforddedig fel Mrs. Henry Jones allu rhoi'r cefndir priodol i ni: y syndod yw ei bod hi wedi gallu ei roi mewn cyn lleied o eiriau, ac er ei bod yn cydnabod ei dyled i waith ei thad, gall Siloam ei chyfrif ei hun yn ffodus ei bod wedi cael ei gwasanaeth. Mae'n amlwg fod y tad a'r ferch wedi cymryd y gwaith fel Hafur cariad a bod y ddau wedi dod â doniau a oedd yn paru yn hyfryd, ato, dawn y chwilotwr a dawn y cyfundrefnwr. Efallai na chaiff pob darllenydd yr un pleser yn union ag a gefais i, sef y pleser o gael f'atgoffa o bersonoliaethau wrth ddarllen eu henwau-Mr. Dafydd Harries, Mr. David Jones (Llanybydder), Mr. Fred Morgan, etc.-ond anodd meddwl am neb diwylliedig yn methu cael rhywbeth yn y portread hwn o Siloam (Bed.), Brynaman, a rhywbeth a fydd yn dyfnhau ei wybodaeth o Gymru ac o'i gwerin. Un gwyn yn unig sydd gennyf: gallasai'r awdur fod wedi bod yn fwy hael yn dadlennu ffynhonnell rhai ffeithiau, megis y rheini am y gweithiau tun lleol. J. E. CAERWYN Wn.i.iAMs LEOPOLD Kohr, Development Without Aid: The Translucent Society (Chris- t topher Davies, Llandybie, 1973). £ 2.50. Mae'r llyfr hwn yn llinach gweithiau eraill gan yr Athro Kohr sy'n pwysleisio, ac yn ôl ei feirniaid yn gorbwysleisio, manteision unedau cym- deithasol bychain ac anfanteision rhai mawr. Yma fe gyfunir y pwyslais hwnnw ag un arall ar allu cymdeithasau lleol tlawd i "ddatblygu" heb gymorth o'r hi allan. Yn rhan gyntaf y llyfr ceir y prif gyflwyniad o ymres-