Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymiad yr awdur, ac yn yr ail mae dadleuon rhyngddo a dau o'i gyn-gyd- athrawon, yr Athro Robert J. Alexander o Brifysgol Rutgers a'r Athro Alfred Thorne o Brifysgol Puerto Rico. Yn ôl y Dr. Kohr, fe ddylai datblygiad esconomaidd ardaloedd tlawd ar hyd a lled y byd fod yn broses naturiol," yn ôl patrwm hanesyddol a wêl ef, gan gychwyn gydag ymdrechion cymdeithasau pentrefol-yn wir gwladwriaethau pentrefol awtocrataidd-i gyflawni eu angenrheidiau. Gyda llwyddiant economiau lleol a hunangynhaliol o'r fath gellid symud ymlaen i ddatblygiadau trefol a rhanbarthol: ac yna i rai cenedlaethol a chydgenedl- aethol ,a fyddai'n ymwneud â chynwyddau llai angenrheidiol. Yn hiraethus braidd, dywed yr awdur y buasai ef ei hun yn eithaf bodlon ar ddim mwy o ddatblygiad nag a geid mewn dinas-wladwriaeth fechan dyma ei gym- deithas lachar neu letglir, y gymdeithas translucent (gair â rhyw amwyster hynod yn perthyn iddo yn ei gyd-destun). Yn wir amheuodd yr Athro Alexander fod Kohr yn erbyn pob datblygiad modern, ond etyb Dr. Kohr mai eisiau datblygiadau addas y mae­er enghraifft, technoleg ganolradd Schumacher o fewn ardal a marchnad leol. Gellir yn rhwydd gydweld â'r Athro Kohr, ac â saint yr oesoedd, fod ansawdd bywyd pobl yn anhraethol bwysicach na lluosogrwydd eu nwyddau- para: a bod digon o eisiau hyrwyddo datblygiadau hunanddibynnol ar radd- feydd cymharol fychan mewn gwledydd tlawd. Fodd bynnag, fel y dywed yr Athro Alexander, nid yw hyn yn golygu nad oes le i ddatblygiadau ar raddfeydd mawr modern eu technoleg a dibynnol efallai ar gymorth ariannol a masnachol o wledydd eraill­ond cymorth (neu iawndal am gamwri'r gorffennol) a fo'n addas fel y pwysleisia'r Athro Thorne. Ar y cyfan ateb Kohr yw ailadrodd ei brif ddadl mewn ffyrdd deheuig (gan ddefnyddio enghreifftiau ei wrthwynebwyr!). Eithr fe wasgwyd oddi wrtho tua'r diwedd addefiad y gall trefniadau cydwladol gydfod â'r ym- drechion lleol a rhanbarthol, ond fel atodiadau iddynt (t. 193). Caiff y Dr. Kohr gryn hwyl wrth feirniadu cymorth anaddas i'r gwledydd tlawd. a'r cam-ddefnydd o gymorth, ond nid oes sôn ganddo am gymhorthau a fu o werth ac a achubodd fywydau-pethau fel cloddio ffynhonnau, adeil- adu cronfeydd dŵr, a darparu cyfleusterau amaethu. Rhydd y dull naturiol," digymorth o ddatblygu, medd yr Athro Kohr, gyfle i bobl dlawd gydymdrechu a thyfu'n gymuned ac yn genedl. Fe rydd gyfle hefyd i lawer ohonynt i ddihoeni a newynu. Gyda llaw, yr unig fath o gymorth a gymeradwyir gan yr awdur yw teithiau cenhadol gan gynghorwyr o gymun- edau fel rhai y Mennonitiaid a'r Amishiaid yn y Taleithiau Unedig. Wrth gwrs mae â wnelo twf aruthrol poblogaethau lawer iawn â dwyster dioddefaint rhanbarthau tlawd, ond er syndod mae'r Athro Kohr yn osgoi'r agwedd hon yn hollol (" which I may ignore," t. 184)-gan ymwneud yn unig, gyda gormod o hyder, yn fy marn i, ag effeithiau ei raglen ef o ddatblygiadau pentrefol ar symudiad pohl o gefn gwlad. Gellir ei feirniadu hefyd am beidio â rhoi'r sylw dyladwy i brinder adnoddau naturiol mewn llawer o'r ardaloedd tlawd nid yw'n werthfawr iawn dweud fod unwaith