Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

byd oedd ohoni ymhell ac yn agos tua diwedd ei oes, a hynny'n rasol feirniadol. Profodd brinder hyd at dlodi am ran helaeth o'i oes, ond cafodd fyw, meddai, i brofi cymdeithas-llawnder. Haerai mai un gwahaniaeth mawr rhwng y ddau gyfnod oedd bod y tadau wedi dysgu byw efo prinder tra'n bod ni yn methu a dysgu byw efo llawnder. Yr hyn a'i blinai fwyaf oedd diflaniad yr hen gymdeithas soled, yr hen gymdeithas a oedd yn uned gadarn gytûn, a chrefydd yn diogelu'i hundod ac arweinyddion crefydd yn aiwain ar bob lefel. I'r un blaid wleidyddol y pleidleisient­yr Ymneilltu- wyr i'r Rhyddfrydwyr a'r Eglwyswyr i'r Torïaid. Ond gwelodd gychwyn gwrthgiliad o'r capelau a phleidiau gwleidyddol newydd yn cystadlu am deyrngarwch yr aelodau. Daeth rhyfel. Yr ymateb cyntaf i'r llyfr ydyw rhyfeddu'n ddiolchgar at ddawn y awdur i gyflw>Tio'i weledigaeth mor glir ac mor rymus. Mae ffresni yn ei arddull a threiddgarwch ei feddwl yn ein cyffroi a'i argyhoeddiad yn heintus. Yn ychwanegol at ei holl waith arall ysgrifennodd dros 500 o erthyglau i wahanol gyfnodolion yn ystod y 20 mlynedd diwethaf. Sonia yn ei ragair am ofal dwys dros ein heglwysi Cymraeg, ein traddodiad Cristionogol yn gyffredinol yng Nghymru, a thros ennill mwy o gydymdeimlad â'r Weini- dogaeth Cristnogol yn ein mysg, yn llinell sy'n rhedeg trwy'r ysgrifau. Ac er i rai ohonom anghytuno â rhai o'i syniadau, a llwyr-ymwrthod â'i dde- hongliad ar brydiau, mae'n ein gorfodi i'w gymryd o ddifri a'i wrando yn ewyllysgar. Dyma enghraifft o daerineb ei ddawn Gair Duw ac argyfwng dyn — dyna'r ddau begwn. Y peth marwol yw i bregethwr fod yn ddiofal ac ysgafala ynglŷn â'r naill neu'r llall. A hoffwn ychwanegu fod yr un cyfrifoldeb ar bob Cristion. Yr Efengyl, ei hystyr a'i chynnwys, dyna bwnc na all Cristionogion ei drafod yn anghyfrifol heb wadu eu ffydd. Ac angen dynion yn holl gymhlethdod eu bvwyd beunyddiol, yn genedlaethol, yn ddiwylliannol, yn llenyddol, vn foesol, yn gymdeithasol. Os tybia dyn nad yw'r nethau hyn o ddiddordeb iddo fel Cristion. ni ŵyr ddim am Cristnogaeth. Ac mi welwch, gobeithio. pam yr wyf (er gwaethaf ambell bwl o ddigalondid) yn ei chyfrif yn fraint cael pregethu'r Efengyl yng Nghymm. A dyna pam y byddai'n dda gennyf weld llu o Gristionogion ifainc yn ymuno yn y gwaith. Rhaid i mi gyfaddef fod un bennod yn dipyn o flinder i mi, a Gorau Pwyll" yw honno. Ymddengys i mi yn feirniadaeth ddifrîol ar y Meth- odistiaid Calfinaidd," ac ni allaf yn fy myw weld unrhyw gyfiawnhad iddi mewn cwmni o erthyglau mor eithriadol â'r rhain. Os ca'i ddweud yn ostyngedig, teimlaf fod Dr. Tudur Jones, a dweud y lleiaf, yn cyboli cryn dipyn dan y pennawd hwn. Bûm yn meddwl, pan ddaw'r amser am argraffiad arall o'r gyfrol y gaJJai'r Dr. ystyried gosod is-destun mewn crom- fachau o dan "Gorau Pwyll .?" — (Dyn dieithr ydwyf yma)! Dichon bod rhai, fel finnau, sy'n ddigon cloff ynghylch Y Cynllur Uno," ond yn sicrach ein hymateb i'r Cyfamodi tuag at Undeb" sydd dan ystyriaeth ar hyn o bryd, yn barod iawn i wrando'n ystyriol ar ystyr- iaethau sy'n codi o'r erthygl Y Cynllun Uno." pa un a apeliant atom ar hán ιı bryd ai peidio.