Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Rydym yn ddyledus iawn i'r Dr. Tudur Jones arni draethu ei farn mor glir a didderbynwyneb ac aflonyddu arnom â'i argyhoeddiadau cedyrn. Yn yr amrywiaeth mawr o erthyglau y mae i bob un ei brawddegau cyrhaedd- gar: "ÜiHyg cariad sydd wrth wraidd yr anhawster sydd gan gynifer ohonom i gysylltu â'n cenhedlaeth." Heh dduwioldeb y mae seiliau gwar- eiddiad yn ymddatod." Er ei bod yn anodd iawn credu hynny ar brydiau, y mae'r dyddiau hyn yn ddyddiau gwefreiddiol i bregethu ynddynt." Oni fyddai'n gyfrol werthfawr i'w thrafod mewn Cyfarfod Gweinidogion, ac oni ellid ei chyflwyno a'i thrafod mewn seiadau? Y mae un peth yn sicr, bydd pob un ar ei fantais o'i drwytho'i hunan yn ei chynnwys. Y gwaith pwysicaf un yng Nghymru yw sicrhau gwir ffyniant Eglwys Dduw yn ein plith." Lerpwl. R. MAURICE WILLIAMS.