Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

2 MUL Od i mi nad yw mul ond mul wrth geiniog hen y môr ei weld yn rhyddid Connemara. Bodlon. Llonydd. Llwyd. Dyfnach ei lygaid na thair cerdd Killarney, dwysach Na chwedlau Kerry a'r niwl yn cau, dycnach na sagâu crwn memrwn y môr y gaea hir ar greigiau Aran. Gerllaw iddo y das o gur a lludded isel ei esgyrn a godai yn sgwar yn gadarn yn erbyn sŵn y gwynt a'i raib sydd beunydd hir a beunos hwy yn gweu, yn troi ac yn chwerthin trwy'r gorllewin llwm. Hon fydd y gannwyll. Yr haul yn yr heth: wedi iddo ef ddiflannu n unig drwy'r niwl i gell y gors a'r groes yn cynnau ar ei war yn rhyddid Connemara,