Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

3 PADRAIC O'CONAIRE Rhaid oedd craffu er gwybod i'r düwch am hir cyn gweld mai â'r cŷn a gordd y naddwyd y wedd a wenai arnaf yno. Meddyliais dy fod yn ôl o grwydro heolydd y goleuni gwyn ym mhlwyfì'r gwin i lawr yn Nulyn, neu yn Wiclo lefn ac y clywid dy esgidiau'n clip clopian dy saga hen ar femrwn y pafìn a chyfrinach dy chwedl i'w gweled wedyn a lliw'r gorllewin drosti'n drwch. Ond na! Di-gân hyd yn oed y deryn llwyd a glwyda ar dy glun. Tithau'n sownd yn naear Connemara mor oer â'r môr ei hun. Y nos hir fel siôl Yn cau am dy ysgwyddau a gwn na ddeui draw ar bwys dy ddraenen ddu drwv fwa y blynyddoedd fu i oedi ar aelwydydd lle roedd chwedleua'n fara, geiriau'n fawn.