Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Na. Does dim er y cŷn a'r cur ond awelon chwerwfelys a gwefusau carreg fud i leisio heno stori sydd â blas ei hiaith fel eira d'afal ar y dafod neu arogl aur dy faco yn y glust. GWYNNE WILLIAMS. JAEL Dy gyfle di oedd Sisera'n dianc Rhag cerbydau'r angau ar ei drac; Heb obaith ond yn dy babell Rhag nwyd Barac ac ynni Deborah. Pwy na ffoai ar wib am gwmpeini ffrind Cu o'i ofid, am aelwyd cyfaill? Dy frad fu rhwydo'r Di-nerth trwy'i guddio dan wrthban O'r cynin glyd, Wedi agor cynnog o laeth; A honni pryderu'n ddistaw draw wrth y drws Fel câr, nes yr aeth i ofal cwsg. Hawdd oedd nesu'n y düwch I'r dasg, a phopeth mor dwt Wrth law, morthwyl a hoel. A wenaist wrth wanu? Taro'r hoel sad trwy'i arlais o, Ei phwyo a'i gwthio i'r gwair I dduo'n sownd yn y ddaear. Rwy'n siwr i ti chwerthin gyda'r fyddin fawr A Barac yn y bore,- Dy law a lwyddai hynt Cenedl Ddnw! EMRYS ROBERTS.