Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PUM ADDUNED O, Arglwydd Iesu, ddihefelydd Un, A brofaist warth a gwaethaf pechod dyn, Ymladdaf innau'n ddewr â'm pechod hy A'i goncro trwy y gras sydd oddi fry. O, Grist difeddiant, eto'n rhoddwr hedd, A gefaist fenthyg preseb, llety a bedd, Diddymaf innau'n llwyr yn awr o'm bryd Yr ysfa am ddarfodedig bethau'r byd. Tydi, y Sanct a fu dan goron ddrain, Gorchmynnaist gynt roi'r cleddyf yn y wain; Ni thrawaf innau chwaith â dwrn na sen, Cans byddaf gaeth i Ti, fy unig Ben. Ti, oedd â gras ar dy wefusau pur A'th eiriau'n obaith i bob un dan gur, Ni ddaw o'm genau innau air o wawd A ddrygo 'nghyd-ddyn sydd i mi yn frawd. O, Geidwad a wrthodaist daerni'r cri I'th gipio a'th wneud yn frenin mawr dy fri, Ymwadaf innau â phob hunan-glod, Byw i'th fawrhau, O Iesu, fydd fy nod. Llandeilo-fawr. J. EDWARD WILLIAMS. Cywiriad. Yng ngherdd y Parch. Haydn Lewis, Wedi darllen "Gweddi'r Terfyn "-gan S.L. llinell 21 (Y TRAETHODYDD, Rhifyn Ebrill, t. 89), darllener yma yn ddreng wrth bared Byd' yn lle wrth droed Byd.'