Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Da Bo'ch, Miss Welsh EISTEDDAI Rhiannon Bowen (Cymraeg) a B.T. (Mathemateg) gyferbyn â'i gilydd ar y ddwy gadair anrhydedd yn ystafell yr athrawesau a rhyngddynt dân trydan a sgwâr o garped Axminster. Wrth bellhau oddi wrth y tân a nesáu at y drws âi'r cadeiriau yn llai a chaletach a darfod lle y byddai pob athrawes newydd yn bwrw'i phrentisiaeth efo drafftiau ar ei gwar a leino o dan ei thraed. Dal i gredu, Rhiannon?' holodd B.T. baoh, yn glên. Credu yn be, deudwch?' Ochneidiodd B.T. Be 'haru'r ddynas? Bob amser yn ystumio geiriau. 'On'd ydi hi'n braf,' meddai rhywun. 'Pwy hi?' holai Rhiannon. Straen deugain mlynedd o ddysgu Cymraeg mae'n debyg. Roedd rhywun yn ddiogelach efo rhifau. Ond 'doedd wiw iddi fflamio'n ôl heddiw o bob diwrnod. Ni châi ei chyd- wybod gyfle i ddannod iddi andwyo diwrnod olaf Rhiannon. Daeth terfynoldeb y peth a dagrau i'w llygaid. Cododd law fach fodrwyog i'w dal yn ôl. Rŵan, rwan, B.T. 'Does dim angan hynna.' 'Does gen i ddim help.' Eich calon feddal chi eto, mae'n debyg. Syndod na 'dydi hi ddim wedi toddi'n llymad bellach.' O'r galon y mae pob teimlad yn tarddu.' 'B.T. Mi faswn i'n disgwyl mwy o synnwyr gan athrawes mathemateg. 'Dydi'ch calon chi, mwy nag un neb arall, yn ddim mwy na phwmp gwaed.' ‘O, diar, 'dydi'r blynyddoedd wedi tyneru dim arnoch chi.' I'r gwrthwyneb. Wedi 'nghaledu i maen nhw. Mi 'dw i'n synnu na 'dydach chi ddim wedi clywed clinc clonc fy arfwisg i wrth imi symud. Gwnewch gymwynas â fi, B.T.' « Siwr iawn/ Fasa ddim gwell i chi ofyn beth ydi hi gynta?' Wel, be?' « 'Nôl panad o goffi imi i'r gegin.' Wrth gwrs, Y munud 'ma.' Cododd B.T. yn wyllt a chythru am y drws