Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beirniadaeth Lenyddol Newydd-Glasurol Prifeirdd y Ddeunawfed Ganrif: Arolwg CYN troi at feirniadaeth lenyddol cylch y Morrisiaid dylid nodi dau neu dri o bwyntiau. Yn y lIe cyntaf yr oedd aelodau'r cylch wedi ymserchu yn hen lenyddiaeth eu gwlad ac yr oedd dau ohonynt, sef Lewis Morris ac Ieuan Fardd wedi treulio eu hoes yn chwilota am lawysgrifau i'w copïo a'u dehongli. Tad y cylch ydoedd Lewis Morris ac yr oedd wedi copïo a darllen gwaith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd ac wedi dotio arnynt. Who do you think I have at my elbow,' meddai mewn llythyr at Edward Richard yn 1758, as happy as ever Alexander thought himself after a conquest? No less a man than Ieuan Fardd, who hath discovered some old MSS. lately that no body of this age or the last ever as much as dreamed of. And this discovery is to him and me as great as that of America by Columbus. We have found an epic Poem in the British called Gododdin, equal at least to the Iliad, Aenid or Paradise Lost.'1 Yr oedd yr un mor gyfarwydd a gwaith Beirdd yr Uchelwyr hefyd3 ond ei hoff farddoniaeth, fodd bynnag, ydoedd cywyddau Dafydd ap Gwilym a'r hen benillion telyn. Yr oedd Edward Richard yn gyfarwydd â gwaith Dafydd hefyd, er iddo gredu ei fod yn fardd anfoesol. Ond yn y gorffennol agos yr oedd ei ddiddordeb ef, sef ym marddoniaeth rydd yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif a'r bymtheg, ac yn arbennig felly yng ngwaith Huw Morris.3 Darllenodd Goronwy Owen hefyd waith Dafydd ap Gwilym a pheth o waith Beirdd yr Uchelwyr ond ei hoff feirdd ef oedd yr hen gyrph/ sef y Gogynfeirdd.4 Cwynai Goronwy Owen fod Dafydd wedi anharddu'r Gymraeg trwy ddwyn geiriau Saesneg iddi. Darllenodd Ieuan Fardd waith Beirdd yr Uchelwyr hefyd ond yr oedd yn brif awdurdod ei oes ar waith y Cynfeirdd a'r Gogynfeirdd yn ogystal. Ef yn wir oedd yr ysgolhaig mwyaf o ddigon yn hen lenyddiaeth Gymraeg yn y ddeunawfed ganrif. Prin y gellid disgwyl i wŷr mor ddysgedig a chwilfrydig â'r rhain ysgrifennu dim nad oedd yn dangos olion darllen gwaith llenorion Saesneg eu cyfnod.5 Yr oedd tri ohonynt wedi cael eu haddysg yn Rhydychen a bu nifer ohonynt, megis Goronwy Owen, Richard a William Morris ac Ieuan Fardd yn byw am flynyddoedd yn Lloegr.6 O ddarllen llythyrau'r gwyr hyn fe welir eu bod yn