Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llafar Gwlad a Chymdeithas RHAN 1. GEIRFA YN y rhan hon o'r ysgrif fe gynigir geirfa ar gyfer un o feysydd yr astudiaethau cymdeithasol. Enwau ar syniadau yw'r rhan fwyaf o'r geiriau dan sylw, a bwriedir sôn, yn fyr mae'n wir, am y syniadau hynny yn hytrach na chyflwyno dim ond rhestr foel o eiriau. Ni fyddys, er hynny, yn trafod y syniadau'n fanwl iawn: nid atynt hwy yr anelir, ond at yr eirfa. Nodir un o'r problemau ar y cychwyn. Y mae gan y maes hwn eisoes ei eirfa a'i lenydd- iaeth mewn llawer o ieithoedd, ac y mae hynny'n galw am eirfa gyfatebol yn Gymraeg. Y mae teithi'r Gymraeg yn aml yn galw am ymadrodd yn hytrach nag am lunio gair, ac mae hynny'n golygu bod ieithoedd eraill yn rhoi'r Gymraeg dan wasgfa pan eir ati i lunio geiriau ac ymadroddion i gyfateb i eirfaoedd ieithoedd eraill. Ond na ddiHeswch. Mae geirfa'r astudiaethau hyn yn o glogyrnog ym mhob rhyw iaith, ac nid yw'r Gymraeg yn llai hwylus na ieithoedd eraill. Tyfodd anthropoleg yn destun annibynnol yn ystod chwedegau a saithdegau'r ganrif o'r blaen. Dyna pryd y cyhoeddwyd gweith- iau'r arloeswyr-E. B. Tylor, H. S. Maine, L. H. Morgan, J. J. Bachofen, Fustel de Coulanges, J. F. McLennan, ac ati. Tadog- wyd y testun ar Tylor. I ysgolheigion y cyfnod hwnnw Mr. Tylor's science" oedd anthropoleg. Ac â syniadaeth Tylor am ddiwylliant yr oedd a wnelo anthropoleg. Ym 1871 cynigiodd y diffiniad hwn: Mewn ystyr eang, ethnografBg, diwylliant yw'r cyfanbeth cymhleth hwnnw sy'n cynnwys gwybodaeth, credo, cel- fyddyd, moesau, cyfraith, cwstwm, ac unrhyw alluoedd ac arferion eraill a feddiennir gan ddyn fel aelod o gymdeithas." Ni chyd- welodd pawb â Tylor, ac y mae hanes y testun yn glwm wrth natur yr anghydweld. Ond cyn troi at hynny gwell dweud yn unswydd fod safbwynt Tylor o hyd yn bwysig ac yn enwedig felly yn yr