Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y Gred yn yr Ymgnawdoliad a'r Gwyrthiol* Y MAE'R rhan o'r maes a ymddiriedwyd i mi yn bwysicach na'r un o'r rhannau eraill; yn bwysicach hyd yn oed na'r rhai a rodd- wyd i'n darlithydd gwadd.1 Oherwydd i'r Cristion, y gred yn yr Arglwydd Iesu Grist ydyw'r ffaith ganolog, holl-bwysig yn ein gwybodaeth am Dduw a'n hadnabyddiaeth ohono. Dyma fan cychwyn y gred mewn Duw personol; o'r fan yma, sef yr Ym- gnawdoliad y gwelwn wir ystyr ac arwyddocâd y paratoad ar gyfer dyfodiad yr Iesu i'r byd. Ac nid man cychwyn yn unig, ond yma hefyd y mae ein gwybodaeth am Dduw a'n hadnabydd- iaeth ohono yn cyrraedd ei uchafbwynt. I gadarnhau'r gosodiad yma, 'rwyf am ddyfynnu geiriau tri o'r rhai a sgrifennodd ar y mater yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Y mae Daniel Jenkins yn ei lyfr, The Ctiristian Belief in God, yn dechrau'r bumed bennod fel hyn: For Christians the answer to the question of belief in God turns 011 their answer to the question­‘ What think ye of Christ?' In him all the chief questions which arise in relation to belief in God are gathered up and brought to decisive issue.2 Gosodir yr un cwestiwn, sef Beth a debygwch chwi am Grist? gan Norman Pittenger ar ddechrau ei ragair i'w lyfr, The Word Incarnate. That question. certainly, is the fundamental one ior the faith of a Christian.3 A dyma'r trydydd dyfyniad; brawddeg gyntaf erthygl ein llywydd yn y cylchgrawn Diwinyddiaeth Fe gytunwn oll mai'r cwestiwn ysgrythurol, Beth a debygwch chwi am Grist? yw'r cwestiwn canolog y mae n rhaid i ni Gristionogion ei wynebu.4 Ni allaf synio o gwbl am gwestiwn ystyr y gair personol heb feddwl am yr Athro Herbert Farmer. Gwyddoch fod Farmer wedi gosod pwyslais neilltuol ar y wedd bersonol i berthynas dynion â Duw. Y mae'n gwneud hynny yn ei lyfr God and Men; hefyd yn ei lyfr ar bregethu, The Sewant of the Word. Bydd nodi teitlau Y mae'r ysgrif hon wedi i seilio ar anerchiad a roddwyd yng nghynhadledd Undeb Athrofa'r Bala yn Llandudno ym mis Medi 1973. Testun y gyn- hadledd oedd Y Gred mewn Duw Personol.'