Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau CASSIE Davies, Hwb i'r Galon, Dyma destun ac awdur sy'n gweddu i'w gilydd i'r dim, fel y gwyr unrhyw un a fu yng nghwmni Miss Cassie Davies. Hunangofiant hwyliog, bywiog yw hwn, a gallech dystio eich bod wrth ddarllen yn clywed Cassie Davies, ei hun, yn siarad, oherwydd llwyddodd i gyfleu mewn print fwrlwm afieithus a rhuthmau cyflym ei hiaith lafar ei hun. Ar y flaenddalen cyflwyna'r llyfr yn gyntaf i gofìo'n annwyl am fy nheulu ac fe geir darlun cwbl gofiadwy o'r berthynas gynnes agos a oedd rhwng y rhieni a'u deg plentyn yng Nghae Tudur ac o'r cyfoeth diwylliannol a chrefyddol a oedd yn bod ar yr aelwyd. Yn wir, mae cyfeiriadau annwyl a thyner at ei theulu yn ymddangos fel patrwm cynnes annatod drwy wead y gyfrol. Cyflwynir ei gwaith hefyd i ffyddloniaid Capel Blaencaron heddiw ac yfory ac i'm cymdogion caredig yn Nhregaron.' Ym mhenodau cyntaf y llyfr ceir darlun godidog o gyfoeth anarferol ei hetifeddiaeth yng nghwm Blaen Caron. Gellid honni am weddill y llyfr mai disgrifiad sydd yma o ymdrechion Cassie Davies ar hyd ei bywyd i geisio rhoi rhyw ymdeimlad o rin odiaeth y bywyd hwnnw i bobl na chafodd y fraint o brofi dim tebyg iddo-t. 22­-‘ y math o gymdogaeth glos sy'n aros yn fy nghof i o'm dydd- iau cynnar-pobl yr ardal yn cydweithio a chydymdrechu yn galed a dygn, yn un cwlwm cymdeithasol, ac wedi diwrnod gwaith yn casglu yn nhai ei gilydd am sgwrs a chwmni a llawen chwedl gan greu eu diddanwch a'u difyrrwch eu hunain yn unol â thraddodiad eu cenedl.' Fe gawn ninnau gip ar rai o'r cymeriadau doniol­-un fel Rhys Tangopa a glywodd sŵn 1 tra'd y mishtir yn dod at y lle pan oedd o'n caru yn y dowlod-u dyma fi'n neidio'n grwn lawr o'r dowlod i'r sgybor nes i nghoese sinco mewn i mole i, a ddithon nhw byth ma's Cymeriad doniol arall oedd Bet y Bwth a fyddai'n rhaffu pethau racabobis ac amhrintadwy' pan ddeuai i Gae Tudur ar amser lladd gwyddau ac adegau stresol felly. Cawn gipolwg hefyd ar gymeriadau naturiol ddiwylliedig­-rhai fel Isgam a ystyriai fod Cerdd Dafod John Morris-Jones yn darllen fel nofel-neu un fel Lewis Ifans a ddisgrifir fel gwerinwr a'i ddiwylliant yn rhoi iddo urddas a boneddigeidd- rwydd naturiol. Hoffwn roddi'r gyfrol yn llaw pob darpar-athro er mwyn iddo weld beth yw'r cyfoeth traddodiadau, y cefndir hanesyddol a'r etifeddiaeth lenyddol a all berthyn i un fro — ffaith a bwysleisir dro ar ôl tro drwy'r gyfrol. Wrth ddarllen atgofion Cassie Davies am deulu ac am ardal, daw'r cyfnod yn llachar fyw am mai mynegiant manwl personol sydd yma o argraffiadau a wnaed ar awdur miniog iawn ei synhwyrau, e.e., Mynd tua'r sgubor i ben y wisgon wair ar y dowlod, gwasgu hwnnw lawr yn dyn â'n traed, ei wthio dan y wimbren a'r lle fel uffern o boeth.' Rwy'n clywed gwres y tŷ adeg crasu bara cvmvsg a chacen gyrens yn v ffwrn waL ac aroglau hvfrvd