Welsh Journals
Search over 450 titles and 1.2 million pages
Mae'r gallu i ddethol digwyddiadau yn ôl eu harwyddocâd yn holl- bwysig, debygwn i, os yw hunangofiannydd am allu cadw diddordeb ei ddarllenwyr. Fe lwyddodd Cassie Davies i ddewis i'r dim. Mae'n gallu cyfleu y wefr a gafodd hi o symud i sir mor gyfoethog ei diwylliant â Sir Feirionnydd. Dyfnheir yr argraff gan ei disgrifiad o'r Noson Lawen ryfeddol a gynhaliwyd yn Llanuwchllyn gyda'r cyfoeth o ddoniau oedd yno. Effaith debyg a gaiff y disgrifiad o'r sgwrs rhyngddi hi ac Arthur yn ysgol Glan- rafon lle roedd y plentyn yn cyfeirio'n gwbl naturiol at gyfoeth dihysbydd o chwedlau a thraddodiadau. Ni allaf gredu fod adroddiadau arferol A.E.M. mor lliwgar â'r hyn a geir pan fo Cassie Davies yn rhoi ei hanes yn gweithio yn Sir Drefaldwyn a Phenfro lIe mae'r ffin iaith yn rhannu'r sir yn ddau hanner pur bendant. Mae lliw y cyfnod ar hanes y Cwrs arbrofol i Athrawon a astudiodd fro Llanwddyn mewn ffordd oedd mor newydd ac, ar y pryd, mor chwyldroadol, ac adlewyrchir y blynyddoedd ar ôl y rhyfel wrth sôn am y cyngerdd a roddwyd gan fois y Frenni yng Nghrymych wedi i W. R. Evans ddychwelyd i'w fro. Erys yn arbennig yn y cof yr argraff ddofn annileadwy a wnaed ar yr awdur gan basiant mawr ysgolion Cwm Rhondda yn 1950. Ond o ran hynny rhyw basiant o weithgareddau egnïol yw'r llyfr ei hun drwyddo,-gweithgareddau sydd, yng ngeiriau'r awdur, yn gallu hanner lladd rhywun a gwneud bywyd yn werth ei fyw yr un pryd.' A hithau'n parhau gyda'r fath weithgareddau fe fynnodd Cassie Davies ysbaid i roi rheswm i ni am y gobaith sydd ynddi. Wrth wneud hyn mae'n crisiaju egwyddorion hanfodol addysg mewn modd sy'n gwneud y gyfrol hon yn werthfawr i addysgwyr o bob gradd. Mae'r enghraifft a ganlyn yn un ymysg llawer Dyma i mi un o hanfodion gwir addysg, plant yn cael cyfle i dyfu yng nghwmni athro sy'n tyfu'n gyson ei hun ac yn rhoi i'w ddisgyblion wreiddiau addas i dvfu ohonynt a phob mantais i gyrraedd eu llawn dwf.' Dyma lyfr hefyd i unrhyw un sy'n hoffi darllen am gymeriadau diddorol a digwyddiadau difyr, yn enwedig pan geir yn gefndir iddynt fam gwbl bersonol ac annibynnol. Pan fo un sy'n meddu ar ddawn y cyfarwydd' yn trin y fath ddeunydd, nid rhyfedd i ni gael Hwb i'r Galon.' Tybed a fwriadai Miss Cassie Davies i'r gyfrol hon wrth hybu'r galon bigo'r gydwybod yr un pryd? Os felly, fe Iwyddodd, yn fy hanes i, yn ddigamsyniol. Y Coleg Normal, Bangor. Menai WILLIAMS Gomeh M. ROBERTS, Cloc tj Caj)el (Llyh Poced Gomer), tt. 149. Pris 90c (Clawr meddal, 45c). Yn wahanol i'r cyfrolau ysgolheigaidd yn adrodd hanes Methodistiaeth Cymru a gawsom ganddo o dro i dro, casgliad o ysgrifau a sgyrsiau yw cynnwys Cloc y Capel, gan Gomer M. Roberts. Lloffwyd yr ysgrifau o naw cyhoeddiad gwahanol a dengys hynny gymaint yr ydym yn nyled y