Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

llenor a'r hanesydd o Landybie. Ac yntau'n un o arweinwyr yr llen Gorfl nid yw'n syndod canfod mai ar dudalennau'r Goleuad y gwelodd y rhan fwyaf o'r ysgrifau olau dydd am y tro cyntaf. Gyda llaw, ni chafodd Y Traetìwdydd y fraint o gyhoeddi unrhyw un o'r penodau. Gwyddom i Gomer Roberts oleuo'r gorffennol inni yn ei gyfrolau hanes, ond diddori a diddanu a wna'r gyfrol hon a rhaid diolch iddo am baratoi'r fath arlwy amrywiol ar ein cyfer. Bydd y casgliad yma wrth fodd y rhai sy'n ymddiddori, fel yr awdur, mewn crefydd a hanes. Wrth ddarllen yr ysgrifau hyn bydd raid amau bobl hynny sy'n dweud fod crefydd yn anniddorol a hanes yn sych. Er bod yr ysgrifau wedi eu cyfansoddi dros gyfnod u bymtheng mlynedd ar hugain, i gyfnod diweddar iawn y perthyn y pum sgwrs radio a ddarlled- wyd ar nosweithiau Sul yn y rhaglen Rhwng Gwyl a Gwaith.' Gellid cymharu'r sgyrsiau a'r ysgrifau oherwydd arall yw nodweddion sgwrs radio ac arall yw nodweddion ysgrif. Tybed a wyf yn iawn wrth ddweud nad yw'r gwahaniaeth rhwng arddull ysgrif a sgwrs radio i'w ganfod yn amlwg iawn yma. Beth bynnag am y gwahaniaethau a'r nodweddion gwahanol, da cael dweud i mi gael y cyfan yn hynod ddifyr, a gobeithio y cawn gasgliad cyffelyb gan yr awdur cynhyrchiol yn fuan eto. Ceir yn y gyfrol amrywiaeth cyfoethog o destunau a swm dda o wybod- aeth a manylion am ddigwyddiadau a lleoedd a phersonau. Ac o sôn am bersonau, pennaf gogoniant y llyfr i mi yw'r ysgrifau-portread rhagorol o bobl megis Amanwy, R. T. Jenkins a D. J. Williams a geir yma. Y mae'r enwau hyn yn hysbys i genedl gyfan ond brysiaf i ychwanegu fod y portreadau o bobl llai adnabyddus, rhai fel Siencyn Lewis, Pont rhyd y fen; William Mansel Job, Llandybie, a'r Hybarch William Richards, Pen-Parc, yr un mor werthfawr. Nid pobl yn unig sy'n mynd â bryd Gomer Roberts oherwydd y mae iddo swyn arbennig mewn capelau a'u cynnwys. Gall y bennod a rydd ei henw i gyfrol dystio i hynny. 0 sôn am gapel cofiaf sylw a wnaeth yr awdur rai blynyddoedd yn ôl bellach pan agorai drafodaeth ar gyfrol y Prifathro R. Tudur Jones. Hanes Annibynwyr Cymru. yng Nghwrdd Chwarter Annibynwyr Ceredigion. Dyma'i eiriau Pan ddechreuwyd codi capelau mawr crand yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf dechreuodd Ymneilltuaeth golli ffordd." Y mae deunydd dadl gynhyrfus yn y frawddeg yna mae'n sicr. Wrth ddiolch i Gomer Roberts am oriau o ddiddanwch pur rhaid rhoi geirda hefyd i Wasg Gomer am ychwanegiad mor ddiddorol i'r gyfres Llyfrau Poced. Y mae hon yn gyfrol lân a chymen ac yn deilwng iawn o grefft Argraffty Llandysul. T. Glyn Thomas, Argoelion a Sgyrsiau Eraül (Gwasg Gomer), tt. 65. Pris 60c. Er bod y gyfrol yma gryn dipyn yn llai nag un Gomer Roberts y mae'n llawn o bethau rhagorol a gwn y bydd croeso mawr iddi gan edmygwyr yr awdur galluog. A chan inni golli'r proffwyd a'r pregethwr disglair ychydig