Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gristnogol i Gymru sy'n prysur fynd yn ddi-Grist. Ac o goíio am ymgyrch fawr y pregethwr enwog u Wrecsam i gael Cymru i Grist' gobeithio y bydd defnyddio helaeth ar gynnwys y llyfr hwn i ddwyn ei fwriad i ben. Llanuwchllyn. W. J. EDWARDS. EDWARD MORGAN, John Elias— ife, Lettcrs and Essays (The Banner of Truth Trust, Caeredin, 1973). Pris £2.10. Maen gyfnod u ddathlu ar Fethodistiaeth Galfínaidd. Y llynedd yr oeddid yn cofio daucanmlwyddiant marw llowel Harris ac yr oedd 1973 yn ogystal yn cofnodi bod canrif a hanner wedi mynd heibio oddi ar arwyddo Cyffes Ffydd y Cyiundeb. Eleni fe ddethlir daucaninlwyddiant geni John Elias, ac ymhen dwy flynedd byddwn yn cofio am eni Ann Griffiths yr emynyddes. Ychydig o sôn am John Elias a fu hyd yn hyn eleni. Cawsom ein hat- goffa amdano gan Mr. Saunders Lewis y llynedd, er hynny, pan ymddangos- odd fel cymeriad yn mama ddiweddaraf y dramodydd, Dwy Briodas Ann, (Taliesin, Cyf. 27, Rhagfyr 1973). O ganlyniad, ar yr olwg gyntaf, mae'n rhyfedd gweld cyfrol foethus bedwar can tudalen yn ymddangos yn Saesneg a honnon cael ei chyhoeddi gan wasg sydd à'i phencadlys yn yr Alban. Er mwyn gweld paham y cyhoeddwyd y llyfr gan y wasg arbennig hon, mae gofyn olrhain ychydig ar hanes yr yinddiriedolaeth sy'n gefn i'r fenter argraffu. Sefydlwyd yr ymddiriedolaeth yn 1957 yn gyfuniad o weledigaeth y Parch. lain Murray ac o haelioni gŵr busnes o'r enw Jack Cullum. Gwas- anaethai lain Murray y pryd hwnnw fel cynorthwywr i'r Dr. D. M. Lloyd- Jones, yng Nghapel Westminster, Llundain, ac arferai draddodi cyfres o ddarlithiau ar Ilanes yr Eglwys mewn cyfarfod canol wythnos. Trwy'r dar- lithiau wythnosol ar y Diwygwyr Protestannaidd a'r Piwritaniaid, y cododd awydd ar Mr. Cullum i weld gweithiau'r cewri hyn yn cael eu hail-argraffu a'u cyflwyno i do newydd o deulu'r ffydd yn gyfrwng adeiladaeth ysbrydol. Mae'r wasg erbyn hyn wedi lledu ei gorwelion ychydig a chyhoeddir ganddi bob mathau o ddeunydd y gellid ei alw'n ddiwygiedig uniongred. Bellach, yn ogystal â chyfresi maith o weithiau Piwritaniaid amlwg fel John Owen a John Flavel, fe gyhoeddir cynnyrch cyfnodau diweddarach megis pregethau Spurgeon a gweithiau rhai Americanwyr fel Archibald Alexander, rhoddwyd peth amlygrwydd i'r Cyfamodwyr Albanaidd, ac yn awr, o ddiddordeb Cymreig, fe welwn John Elias yn cael ei anrhydeddu ganddynt am ei fod ef a'r Methodistiaid Calfinaidd cynnar yn perthyn i'r un traddodiad o Grist- nogaeth uniongred. Yn ogystal â'r dehongliad diwinyddol cyson, fe nodweddir cynhyrchion yr argraffty hwn gan safon uchel yn niwyg y llyfrau a gynhyrchir ganddynt ac y mae hyn yn siwr o daro'r darllenydd wrth afael yn y gyfrol hon. Lluniwyd siaced lwch drawiadol iddi wedi ei seilio ar ddarlun gan J. Warwick Smith yn portreadu'r Bala. Mae'r rhwymiad hefyd yn gain