Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cyffesion Awstin Sant. Adolygiad ar Adolygiad (gweler Y Traethodydd, Ionawr 1974, tt. 16-25, John Henry Jones). Yn gyntaf oll, dymunaf ddiolch o galon am y nifer da o adolygiadau (pur ffafriol hefyd) sydd eisoes wedi ymddangos mewn papur a chylchgrawn ar fy ymgais i drosi meddyliau'r cawr Awstin Sant amdano'i hun, ac ati, i'r Gymraeg. Ac yn naturiol iawn, cofnodaf fy niolch puraf yn awr i'm cyfaill a'm cyd-efrydydd ym Mangor gynt, y Doethur John Henry Jones o Langefni (ac yn awr Aberystwyth), am ei adolygiad gofalus iawn yn Y Traethodydd eleni. Y mae ef yn glasurwr' o'r radd flaenaf,-yn neilltuol felly mewn Lladin-a thrwy hynny'n ŵr arbennig o gymwys at dasg fel hon. Teg hefyd, mi dybiaf, ydyw caniatáu i mi, fel cyfieithydd, gael gwneuthur rhai sylwadau gyda golwg ar ei adolygiad. (Cyfeirir at yr adolygiad wrth rif y tudalen yn Y TRAETHODYDD.) 1. Diwedd paragraff 1 (t. 16). Yr oedd Paul yn crwydro' hefyd-y gẃr mwyaf, yn ôl y diweddar Barch. Brifathro John Morgan Jones (Bangor), yn hanes yr Eglwys Gristnogol hyd heddiw. Ymddengys felly fod y peth yn gyfreithlon! 2. Diwedd paragraff 2 (t. 16): f el mae'n.' Onid Cymraeg amheus yw hyn? 3. Dechrau paragraff 3 (t. 16). Onid yw trefn y frawddeg Gymraeg yn un annaturiol yma? Hefyd, ni cheir pennawd yn y Lladin chwaith,- er mor ddymunol a fyddai hynny! A heth a olygir yma wrth 'bennod'? Y cyfan a welais i oedd Ilyfrau a pharagraffau, er y gellid lxxl wedi ychwanegu crynodebau i arwain. 4. Pen uchaf t. 17. Nid yw'r teitl o angenrheidrwydd yn golygu y cynhwysir y cwbl o'r Cyffesion. 5. Tud. 17. Dechrau'r ail baragraff (neu'r cyntaf cyfan). Dyma'r copi o'r testun yr arweiniwyd fi'n uniongyrchol (ac ar frys gwyllt!) ato (yn ein Coleg Diwinyddol ni yn Aberystwyth), a hynny gan y tra dysgedig Barch. Robert Buick Knox (Caer-grawnt, erbyn hyn), a oedd ar y pryd yn Athro Hanes yr Eglwys ac yn Llyfrgellydd yn y Coleg. Nid ymddangosai i mi y gwyddai ef am unrhyw 'destun' arall. O leiaf, ni chrybwyllodd hynny. Ie, testun Migne ydyw, a dichon y dylasai Dr. Knox a minnau weithredu fel cudd-swyddogion neu chwilotwyr yn y mater hwn! 6. Tud. 19. Yr ail baragraff (neu'r cyntaf cyflawn). Y cwbl y dymun- wn ei ychwanegu at eiriau Rebecca West ydyw, It just depends on who those others' are!" 7. Tud. 20, y paragraff isaf, llinell 4. Onid "Yr hen glasuron Lladin oedd sail addysg ffurfiol a ddylai'r frawddeg fod? 8. Tud. 21, par. 3 (neu cyfan 2). Y mae'n eglur nad yw'r adolygydd yn sicr o'i draed o gwbl yn y fan hon. (Nid oes neb felly pan fo allan o'i ddyfnder, ac ni fedraf innau chwaith ddim nofio!) Y geiriau enwog Nondum considerasti quanti ponderis sit peccatum (" nid ystyriaist eto faich pechod ") yw'r unig gyfarchiad sydd gennyf i'r Doethur yn y cvswllt hwn,