Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llyfr VII, 1, t. 99, par. 8, canol. "hen ŵr tost." Yn hytrach, "hen wr craff." Tybiaf fod hwn yn gywiriad, neu o leiaf ei fod yn cyfleu'r ystyr yn llawer eglurach na tost' Llyfr VII, 2, t. 106, par. 18. Ar ôl ac am na wnaethost Ti bopeth yn gyfartal, am hynny y maent oll," newidier fel hyn, am eu bod yn dda bob yn un ac un ac ar yr un pryd da iawn yw'r cyfan." Er imi ymdrechu'n galed, nid wyf hyd yn hyn, beth bynnag, wedi cael fy argyhoeddi bod y cyfnewidiad yn gwella dim ar y trosiad. Llyfr VIII, 1, t. 117, par. 8 (sic). Yn lle anfodlonrwydd a boddhad,' gwrthdaro a chymod." Onid 7 {nid 8) yw rhif cywir y paragraff? Dichon y gellid dadlau dros gwrthdaro a chymod fel geiriau cryfach, er na newidir yr ystyr. Llyfr VIII, 2, t. 117 (sic), par. 20 (sic). Mae rhai geiriau heb eu cyn- nwys ar ben y tudalen: ac yn fuan y gallwn fel y mynnwn, am y byddwn o ddifrif yn mynnu fel y mynnwn." Ymddengys yn hollol amlwg fod yma wall (neu wallau) argraffu, ac ni lwyddais, hyd yma, i leoli cyfryw. Unwaith eto, diolchaf yn gynnes i'r eyn-Gyfarwyddwr Addysg am ei gymwynas werthfawr, ac yn enwedig am iddo fynd gam ymhellach ar ddiwedd ei ysgrif ar fy ngwaith, trwy alw sylw at nifer o lyfiau (gan gyn- nwys hefyd gyfrolau a grybwyllir ganddo'n gynnar yn ei adolygiad) ar Awstin Sant mewn Saesneg a Ffrangeg y byddai'n dda i Gymro uniaith (i bob pwrpas) fel fi ymgyfarwyddo â'u cynnwys! Sir Drefaldwyn (Powys). Awstin M. THOMAS. Yr wyf yn ddiolchgar i Olygydd Y Traethodydd am y cyfle i weld syl- wadau y Parch. A. M. Thomas. Bu ef yn anffodus i gael ei gamarwain i ddefnyddio argraffiad o'r Cyffesion, nad oedd yn cymryd i ystyriaeth ffrwyth ysgolheictod diweddarach na 1845. Yn awr yr wyf yn sicr na ddylai neb sy'n cyfieithu neu esbonio testun drwy gyfrwng y Gymraeg. ddefnyddio dim ond yr offer gorau at ei waith. O barch i'r Cymraeg, ni allwn wneud y tro â'r ail-orau. Er, wrth gwrs, ni all neb sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd ar waith Awstin Sant ddisgwyl perffeithwdd—Pelagiaeth a fyddai hynny! J.H.J. Teimlaf y dylwn fel golygydd dynnu sylw darllenwyr Y TRAETHODYDD at erthygl Mr. E. Wyn James, Aberystwyth, 'Cyffesiadau Awstin Esgop Hippo' vn Porfetjdd. Rhif 6, Tachwedd/Rhagfyr 1973. tt. 172-4, lle'n hatgoffir fod John Owen Jones wedi cyhoeddi cyfieithiad o dua hanner Y Cyffesion ar dudalennau'r Drysorfa rhwng 1917 a 1919. Am J. O. Jones gw. John Pritchard, Rhamant Bywyd Athro (Bala, 1927) a'r erthygl arno yn Y Byw- graffiadur.—J.E.C.W.