Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU DIWEDDARAF GWASG JOHN PENRY AR LAWER TRYWYDD gan Gwynfryn Richards. Ysgrifau amrywiol yn dilyn teithiau i chwilota a gweld y byd gan y clerigwr diwylliedig o esgobaeth Bangor. Demy 8vo. 132 tt. Pris: £ 1.25. CYMRU KILVERT. Cyfieithiad o Kilvert's Diary' am 1870 gan Trebor Lloyd Evans. Llyfr poced cyntaf Gwasg John Penry. Mae'n llyfr digon o ryfeddod. Cefais flas yn ei ddarllen (Dr. John Gwilym Jones). Crown 8vo. 105 tt. Pris: 60c. FFYDD YN Y FFAU gan R. Tudur Jones. Cyfres o erthyglau byw, pryfoclyd ar bynciau crefyddol. Rhoir her i'r Cristion-boed yn athro ysgol, yn undebwr llafur, yn llenor, yn bregethwr, yn feddyg neu'n wleidydd-i ystyried yn ddwys ble mae'n sefyll. Demy 8vo. 152 tt. Pris: £ 1.25. EFRYDIAU BEIBLAIDD BANGOR. Golygydd, Dafydd ap Thomas. Cyfrol Deyrnged i'r Athro Bleddyn J. Roberts. Cymwynas fawr yw'r Hyfr hwn i Gymry Cymraeg sy n ymddiddori yn ílên y Beibl (Dr. Pennar Davies). Demy 8vo. 202 tt. £ 1.50. BEDYDD, CRED AC ARFER gan D. Eirwyn Morgan. Un arall o Ddarlithiau D. J. James, Pantyfedwen." Hon yw'r gyfrol bwysicaf yn Gymraeg ar Fedydd a ymddangosodd yn y ganrif hon' (M. J. Williams). Hawdd yw cytuno â hynny (Dr. J. Gwyn Griffìths). Demy 8vo. 187 tt. Pris: £ 1.00. DECHRAU DYSGU gan Dan L. James. Cymorth rhagorol i ddechrau dysgu Cymraeg fel ail-iaith. Welsh as a second language course. Dau Gwrs: Two Courses. Llyfr yr Athro (1) Pris: 50c. Llyfr Adolygu Pat- rymau (1) Pris: 12c. Llyfr yr Athro (2) Pris: £ 1.00. Llyfr Adolygu Patrymau (2) Pris: 30c. yn werthfawr i'r athro ail-iaith pa oed bynnag ei disgyblion. Mae'r lluniau yn ddigri ac o'r herwydd yn ddeniadol dros ben a rhai ohonynt yn arbennig o glyfar" (Ann Rosser yn 'Yr Athro'). 11, HEOL SANT HELEN, ABERTAWE Ffôn: 52542