Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

FFYNNON JACOB Amheuthun i dwristiaid sychedig mewn coets boeth trwy Samaria oedd y dŵr hwnnw o fwced Ffynnon Jacob wrth Fynydd Gerisim, bwced sine, nid un plastig, bwced digon hen ffasiwn yn yr oes dechnolegol hon a ollyngid â rhaff i lawr y pydew o flaen allor y crypt a'r eiconau a'r thuserau a'r llusernau yn yr Eglwys Uniongred fechan yn ardal Sichar. Offeiriad yn ddarbodus yn codi bwcedaid inni allu profi'r dwr o wydryn arlliw ias ar arllwysiad,­ y sglein yn wregys gleiniau am ddidwn wn a elai'n wyn, llewych sigl llwch y sêr, ffrydiau'n magu goleuni, gwyn ewyn meysydd dan gynhaeaf, yn rhan o ferw a gras a riniai fôr â grisial. Ie, goleuo a wnâi wynebau gan y blas. EUROS BOWEN.