Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MWY NA'R UN FAINT Teithio mewn car a dau fab bach yn y cefn Yn ceisio cadw trefn trwy gyfrif moto beicia', Ceisio eu cyfri'n rhuo heibio. Fi bia' hwn'na," meddai'r lleia'; A fìnna' hwn'na," meddai'r mwya'. Un i mi." Ac un i minna' Fi bia' hwn'na," meddai'r lleia'; A fìnna' hwn'na," meddai'r mwya'. Dau i mi." A dau i minna' Fi bia' hwn'na," meddai'r lleia'; A finna' hwn'na," meddai'r mwya'. Tri i mi." A thri i minna' Yna dyma hi'n nos ar yr annysgedig. Dyma'r tywyllwch sydd ar ôl Tri, lle mae rhifa' Mor welw, annelwig â drychiolaetha' Yn cau o gwmpas y lleia'. Ond i'r mwya', am y tro cynta', Amlygodd Addysg ei manteision; Yn wir, symbylodd ddangos gorchestion. Pelydrodd Pedwar, Pump, Chwech ac ati O gwmpas, a rhifa' ffansi Fel Cant Dau Ddeg Naw, Pum Cant Tri Deg Tri, A gogoniant rhyfeddol y swm anarferol O Cant Saith Mil Deg a Chwech. Cant Saith Mil Deg a Chwech i mi felly'r mwya' Yn cyfansymu ei foto beicia'. Swatiai'r lleia' yn ei fyd di-rifa', Ym mudandod diffyg ysgol. Ond dyma fwrw'n ôl ar ysbrydoliaeth gyneddfol, A finna', mae gen i, Mae gen i Fwy o lawer na'r un faint â chdi." GWYN THOMAS.