Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Coleg y Bedyddwyr, Bangor (Troswyd y rhyferthwy hwn o emyn wedi gwrando rhaglen deyrnged i G. K. Chesterton gan Kingsley Amis ar Radio 3, nos Iau, Mai 30, 1974, i ddathlu canmlwyddiant geni'r awdur. Ni soniwyd am yr emyn. Cyhoeddwyd ef gyntaf yng nghylchgrawn Henry Scott Holland. The Commonwealih, ac vna yn The English Hymnal. 1906. Cenir ef ar King's Lynn, alaw draddodiadol Saesneg a drefnwyd gan R. Vaughan Williams, ond, yn America. yn ddieithriad ar Llangloffan, vr emyn-dôn Gymreig a gynhwyswyd yn Hymnau a Thonati (1865), y Parch. Daniel Evans, Periglor Corris.-D.E.M.) EMYN CHESTERTON O Dduw y ddae'r a'r allor, Ymostwng atom, clyw; Penaethiaid sydd heb angor, A ninnau'n wan a gwyw; Fe'n cleddir gan aur furiau, Fe'n hyllt cleddyfau gwawd; N'ad in fod heb Dy d'ranau, Ond difa'n balchder cnawd. Rhag dychryn dysg ry ystwyth, Celwyddau tafod, llaw, Rhag aml areithiau esmwyth Sy'n gysur gweision braw, Rhag elw a llygredigaeth Anrhydedd, rhag y cledd, Rhag cwsg a damnedigaeth, Rho 'mwared, Arglwydd hedd. Dod gwlwm byw am d'wysog, Y bobl, a gwas y nef; Dwg ni ynghyd yn wresog, Dan farn Ei gariad Ef; Mewn llid a llonder duwiol, Yn fflam y ffydd, a'th dân, 0 cod ein cenedl fywiol I Ti yn gleddyf glân. G. K. CHESTERTON (1874-1936) Cyf. D. Eirwyn Morgan.