Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ENCILIAD O Almaeneg Eduard Mörike (1804-75) Lass O Welt, O lass mich sein Gad, O fyd, O gad im fod! Paid â'm hudo â rhoddion cariad! Gad i'm calon fod yn irad Neu yn nwyfus yn ei nod. Wn i ddim beth yw fy nghwyn, Y mae'n dristwch nas deallaf. Ond trwy ddagrau hallt y gwelaf Wên yr haul a'i olau mwyn. Heb im sylweddoli bron Hoen sy'n aml fel golau'n fflachio Drwy'r tywyllwch sy'n fy mlino, FHachio'n llawen yn fy mron. Gad, O fyd, O gad im fod Paid â'm hudo â rhoddion cariad! Gad i'm calon fod yn irad Neu yn nwyfus yn ei nod. HEINI GRUFFUDD.