Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cwsmeriaid 'RWYF yn cerdded hyd y siop yma fel dafad â'r bendro arni, yn methu gwybod yn iawn ers dyddiau i ba Ie yr wyf yn mynd. 'Rwyf wedi edrych ymlaen ers misoedd at ddydd fy ymddeol, ond fel mae'r amser yn nesu nid wyf yn teimlo mor hapus. Misoedd yn ôl yr oeddwn yn cofio am bob dim cas oedd wedi digwydd yma, ond erbyn hyn cofio 'rwyf am y pethau braf, ac yn drist, nid yn unig am fy mod yn ymddeol, ond am fod y siop yn gorffen fel siop fwyd. Pe buasai muriau'r lle yma yn medru siarad buasai'n gwneud nofel dda, ond y fi, erbyn hyn, ydyw'r unig un sydd yn ei chofio ers deng mlynedd ar hugain. Dim ond rhyw bum mlynedd sydd er pan mae Wil ar y cownter cig moch, a dim ond dwy flynedd sydd er pan mae Ela yn y post tu ôl i'r siop. Mae llawer o bobl yn meddwl mai lle anniddorol ydyw siop, ac nad oes eisiau llawer o ymennydd i weini ar gwsmeriaid. Ond yr wyf fi yn meddwl fel arall, ac mai lle diddorol iawn sydd rhwng y pedwar mur yma, a bod eisiau tipyn o ddychymyg i drin pobl. Mae yma gyfle ardderchog i ddwad i adnabod pobl, cyn belled ag y medrir adnabod pobl o gwbl. Mi fyddaf i vn meddwl weithiau nad yw'n bosib adnabod pobl er i chi fyw am ddegau o flynyddoedd efo hwy. Er hynny, nid yw'n anodd gwybod sut gartrefi sydd gan bobl wrth weld y pethau y maent yn eu prynu. Dyna i chi Sera Jones, rwan, mae hi'n ddeuddeg a phedwar ugain oed, ac yn troedio'r hanner milltir hyd yma ddwywaith bob wythnos. Mae hi'n cerdded fel pioden ac yn codi ei llaw arnaf i wrth fynd heibio at Ela i godi ei phensiwn gynta, ac yna dwad ata' i. Nid yw'n medru dim un gair o Saesneg, ond nid yw'n cymryd ei gorchfygu gan yr enwau Saesneg sydd ar bob dim. "Tun o Benjam Ffrwst," meddai hi, a minnau'n estyn tun o Benjer's Food iddi hi. Chwarter o Eisin Sîl," meddai hi wedyn, a finnau'n pwyso chwarter o fferins Red Seal iddi. Mi fydd yn traethu'n arw weithiau, cwyno bod snoden yn y dorth wen ddwaetha gafodd hi, a pheth mwdral o friwsion yn y dorth wenith. A mae'r dyn drws nesa yn taflu chwyn o'i ardd ei hun i'w gardd hi. "Rhyw fwltalial o ddyn," meddai hi. Mae hi'n