Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Mae'r gŵr yn cael cyflog mawr a dim ond dau o blant sy ganddynt. Gwario y maent, nid ar bethau rhy grand ond ar bethau fel piano, gitâr, telyn, teledu lliw ag ati, a mynd bob wythnos, y pedwar ohonynt, i Lerpwl i'r opera neu i ddrama. A fedrwch chi ddim gwneud hynny ar ddwy a dimai. Mae'n debyg pe baech yn mynd i'w tŷ nhw, y medrech dorri Diwylliant (efo D fawr) efo cyllell. Wel, ni raid imi fynd trwy beth fel yna eto. Ymhen pythefnos byddaf innau yn piltran yn yr ardd yr un fath ag y bwriadodd Dic Edwards. Yn lIe estyn a chyrraedd oddi ar y silffoedd byddaf yn rhoi pethau'n ôl ar y silffoedd wrth olchi llestri. Ni chaf gymysgu efo pobl na chlywed newyddion fel y byddwn yn y siop yma. Clywem bob newydd yma a hynny o flaen pawb. Mae'r deng mlynedd ar hugain diwetha yma wedi bod yn gyfnod o ddwad i adnabod pobl, cymdeithas arbennig, os oes posibl dwad i adnabod pobl o gwbl. Mi hoffwn i weld lluniau o'r hen gwsmeriaid wedi eu gosod ar y muriau yma, i atgofio pobl o'r amser a fu. Yr wyf yn eu caru heddiw. Ymhen pythefnos bydd y siop yma yn siop mân bethau, mân bethau, myn diân i, a hithau wedi gwerthu bwyd da i bobl am ddegau o Hynyddoedd! Dinbych. KATE ROBERTS.