Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Llafar Gwlad a Chymdeithas. II. YMDRINIAETH YN y rhan hon o'r ysgrif bwriadaf drafod cymdeithas wledig mewn rhai ardaloedd o Gymru yn ôl sut yr amgyffredir y gym- deithas honno yn ymadroddion ac idiomau llafar gwlad. Ond cyn troi at hynny fe geisiaf esbonio pam yr wyf am weithredu felly. Yn gyntaf oll cyflwynaf rai o'r ymadroddion sydd, neu a oedd, ar lafar yn ne-gorllewin Cymru, ac fe welir fod iddynt gryfder ac ystwythder a bywiogrwydd sy'n dra thrawiadol. Ond 'rwy'n ymddiddori ynddynt yma am resymau academaidd a cheisiaf egluro'r diddordeb hwnnw ar ôl i mi gyflwyno rhai ohonynt. Y mae'r iaith lafar yn gyforiog o ymadroddion fel y rhai a ganlyn, yn enwedig felly ar dafod y rhai na chafodd addysg ganolradd nac uwchradd. Mae crwt tew 'fel llo yn sugno dwy fuwch,' a dyn tew fel pot llath cadw.' Oni weithreda hwn a hwn heb gael sylw pawb, y mae'n rhaid iddo fod yn geffyl blân.' Os yw'n siarad yn ddi-ball mae fel pwll y môr,' ond os yw ei eiriau'n ddisylwedd naill ai y mae fel cachgi mewn stên,' neu 'mae'r felin yn malu'n wag.' Os gwr distadl yw, mae 'fel mesen vm mola hwch os yw'n honni bod yn arweinydd ond heb y cymwys- terau addas, dyna ddiacon pren/ Os ydych chwi'n gyfeillion ag ef nid ffrind iawn mohonoch iddo ond ffrind o galon/ Os yw'n cynhennu â phawb, dafad gorniog' yw ef. Os yw'n dioddef oddi wrth hysteria y mae'n cael C pwle dihangol,' ac os digwydd iddo farw'n ddisymwth fe ddywedir amdano iddo fynd rhwng llaw a llawes.' A chaeaf innau ben y mwdwl hwn. Y mae i ymadroddion a geirfa unrhyw gymuned y diddordeb hwn,-fe allant awgrymu neu arddangos sut y mae pobl yn am- gyffred eu cymdeithas eu hunain. Ac ynglPn â hyn y mae eisiau nodi un gwahaniaeth a chrybwyll rhai ystyriaethau sy'n ymwneud â'r testun. Dyma'r gwahaniaeth sydd i'w nodi, y gwahaniaeth rhwng 'model gwerin' (folk model), sef y syniad, y darlun, yr amgyffrediad, y model, sydd gan aelodau cymdeithas am y gym-