Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ond unigolion yw aelodau cymdeithas, ac y mae'r rheini'n eu gweld eu hunain mewn un ffordd mewn un cyswllt ac mewn ffordd arall mewn cyswllt arall. Mewn llawer cyswllt yr oedd cyferbyniad gwyr mawr a ffermwyr a phobol tai bach, yn nhrefn- iant gwaith y tir, fel aelodau medelau, ac ati. Ond mewn cyswllt arall yr oedd ffermwyr a phobol tai bach yn un, sef 'pobol gyff- redin' o'u cyferbynnu â'r gwyr mawr, ac ymddengys fod tair rhan y gymdeithas yn troi yn ddwy. Trefn a phatrwm o gyferbyniadau sydd yma, ac fe ellir ychwanegu na fyddai'r ymadroddion a'r categorïau a nodwyd yn ystyrlon o gwbl ond yn nhermau'r gyfun- drefn syml hon o gyferbyniadau. (Diolchaf i Mr. Ben Owens, M.A., am gymorth gyda iaith yr ysgrif hon.) DAFYDD JENKINS Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth.