Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Parmenides ERS canrif yr oeddid wedi bod wrthi'n cynnig damcaniaethau am anian y cyfanfyd, ond nid oedd dim wedi ei wneud eto i'w gwir- eddu. Yn ystod y chweched ganrif cyn Crist yr oedd Thales a'i debyg wedi dangos ei bod yn fwriad pendant ganddynt hepgor chwedloniaeth wrth esbonio hynt a helynt y môr a'r tir a'r cyrff nefol a'r daran a'r mwyaf amlwg o ryfeddodau'r byd. Y drwg oedd fod pob un yn ei dro'n cynnig esboniad gwahanol, dyma'r gwir," heb fawr ymgais i'w brofi. Mae'n wir fod yna apêl at ddychymyg bob gynnig, a dyfalu pethau anghysbell wrth bethau cynefin ac agos; ond fel prawf nid oedd hyn yn amgenach mewn egwyddor na'r hyn y gellid ei wneud dros yr esboniadaeth ar y byd a gorfforwyd yn yr hen chwedlau. Digon tebyg mai cam ymlaen oedd ceisio deall pethau fel pethau, yn lle fel rhan o hynt achau a charwriaethau a mympwyon y duwiau, gan eu dyfalu hwy wrth hynt a helynt dynion. Ond dyfalu a wneid o hyd, cymryd rhyw bethau cynefin ac agweddau go amlwg arnynt a'u trosi a'u taflunio'n batrwm ar y cyfanfyd. Dwy ffordd sydd o roi prawf effeithiol ar y fath ddyfaliadau esboniadol: y ffordd wyddonol o ddyfeisio arbrofion a sylwadaeth fanwl bwrpasol, a'r ffordd athronyddol o chwilio cystrawen syn- iadau, rhagdybiau, goblygiadau. Ni ellid datblygu'r naill yn llwybraidd, ond odid, nes bod cryn arloesi wedi bod ar y llall. Y ffordd athronyddol a agorwyd gyntaf, beth bynnag, a hynny gan Parmenides mewn modd a barai feddwl nad oedd y gwir i'w gael drwy sylwadaeth, heb sôn am arbrawf. Parmenides yw'r cyntaf o athronwyr Groeg y mae gennym ddarnau sylweddol o'i waith ac ynddynt, ar ôl canrif o ddyfalu, ddadl estynedig resymedig lem. Nid "dyma'r gwir: onid tebyg mai felly y mae?" a geir ganddo ef, eithr dyma'r gwir, oblegid na ellir dweud fel arall heb wrthddywediad." Go brin fod duwies erioed wedi dadlau mor gyndyn resymegol â hon dros wirionedd ei chenadwri. O ba beth y gwnaethpwyd y cyfanfyd a pha ddefnydd a roed ynddo? Pa drefn neu egwyddor sylfaenol sy'n ei batrymu a'i gynnal? Dyna ddau gwestiwn y chweched ganrif. O ddŵr yr hanfu, meddai Thales, yn ateb i'r naill; nage, meddai Anaxim-