Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

andros, ond o ddeunydd amhenodol (ped amgen, dwr neu ryw un peth penodol fyddai'r cyfan o hyd-egin dadl, bid siŵr); nage eto, ond o awyr yn ymdeneuo ac ymddwysáu, meddai Anaximenes (gan ateb y ddadl). Yr ail gwestiwn oedd bennaf gan ysgol Pythagoras, a chan Heracleitos yntau: ymholi am drefn y cosmos, am batrwm a mesur ar elfennau a'r tyndra rhyngddynt. Gorchest Parmenides, yn gynnar yn y bumed ganrif oedd mynd at fôn y ddau gwestiwn, fel pe gofynnai: "Am ba beth y soniwch? Ai mewn bod y mae ai peidio? Os nad oes mohono, ni wiw inni sôn am na threfn na deunydd iddo; ac os bod y mae, fe'n gorfodir i gasglu mai bod ydyw, mai bod yw ei unig ddeunydd a'i unig drefn. Ped amgen, fe fyddai 'na drefn neu ddeunydd nad bod mohonynt, yn wahanol i fod, ac eto'n bod; eithr peth a fo wahanol i fod, nid bod yw; a nid bod, nid dim." Go brin fod duwies erioed wedi dilyn ei rhesymeg ei hun i amryfusedd mor odidog. A derbyn y ddadl, ni hanfu'r byd o ddim ac ni dderfydd am- dano. Nid oes newid. Nid amryw byd o bethau sydd, eithr un: nid byd ond bod. Rhith yn twyllo marwolion yw'r "byd" yr amryfus gredant ynddo gan rith gyniwair ynddo-da y dywedodd Ewdemos ymhen canrif wedyn na dderbyniasai Parmenides mo'r casgliad anhygoel hwn heb fod rhesymeg yn ei orfodi; da hefyd y sylwodd na ellid disgwyl i Parmenides ddal ar y gwall a lechai yn ei ymresymiad oherwydd iddo anwybyddu amwysterau bod." Onid ei baradocs ef a orfododd Blaton ac Aristoteles i fynd ati â'u deng ewin i'w hegluro? Y mae, er hyn i gyd, yn hynod na ddarfu iddo ddilyn ei ymresymiad trwodd i'r casgliad terfynol mai rhith fodolion fel y rhelyw o drigolion y cyfanfyd rhithiol oedd y dduwies a'r gerdd a Pharmenides ei hunan; neu o leiaf eu bod yn rhith luosog. Mae'r ddadl yn wallus, ond godidowgrwydd eu gwallau sy'n dangos athrylith yr athronwyr mawr. Fe ddirnadodd Parmenides galon y gwir, fod syniad am rywbeth a'i grybwyll yn golygu fel y cyfryw fod y peth ar gael; eithr ni ddaliodd sylw ar y gwahan- iaeth yn hyn o beth rhwng anelu a tharo'r nod. Gellir galw ar ysbrydion, ond a ddeuant? Ni ddaliodd sylw chwaith nac ar wahanol foddau ar fod-ar-gael, nac ar wahaniaeth rhwng dweud fod peth ar gael a dweud ei fod fel hyn-a-hyn. Bod y peth a olygid yn ddiwahaniaeth yn ei olwg ef, nes bod" fel hyn y mae