Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

a "bod y mae" yn gyfystyr â'i gilydd ac â "bod ydyw." Gan hynny, bod y peth a negyddid bob cynnig wrth negyddu; peth nad oedd mohono a olygid wrth negyddu, ac ni ellid golygu peth nad oedd mohono; ac felly ni ellid negyddu na chamsynied na chamgrybwyll na chamdraethu chwaith. Bod y peth, dyna'r unig beth oedd i'w grybwyll ac i synied arno; ac erbyn meddwl fod traethu amdano ei fod fel hyn ac nid fel arall yn golygu gwadu nad oedd fel arall, a bod gwahaniaethau rhwng hwn a hwn acw'n golygu nad y naill mo'r llall, rhaid oedd casglu nad oedd ond un peth yn bod, a hwnnw'n llwyr unwedd ag ef ei hunan drwodd a thro. Bod ydyw," ynteu, fel petai byw y mae a byw ydyw (" mae'n Iyw") yn gyfystyr â bywyd ydyw." Er mwyn dweud hyn, ni allai Parmenides beidio â negyddu, a hynny'n aml; ond nid ef fu'r olaf o'r athronwyr mawr i draethu athrawiaeth a ddi- rymai'r traethu a wnâi arni. Ac nid ar chwarae bach y dangos- wyd ac y deellir beth sy'n bod ar ei athrawiaeth. Fe ddywedir weithiau fod gramadeg arwynebol y ferf Gymraeg bod yn llai tebyg o guddio'r amwysterau hyn na gramadeg arwyn- ebol y ferf Roeg einai, oherwydd fod gennym amrywiaeth o ffurfiau ar y trydydd mynegol presennol ynghyd ag amrywiaeth o gystrawennau pwrpasol yn cyfateb i'r un ffurf Roeg esti. Bid a fo am y Gymraeg, fe geir yng ngherdd Parmenides ei hun amrywiol swyddogaethau i esti (a rhannau eraill o'r ferf): brawddegau cypladol cadarnhaol a negyddol ac esti'n gyplad; esti (a'i debyg) yn cyfleu "bod ar gael," "bod yn agored i bosibilrwydd," a "bod mewn lle" lleol neu drosiadol; a hyn blith draphlith â'r esti (a ffurfdroadau eraill) sy'n cyfleu'r bod dirfodol cynhwysfawr, yr hanfod ynddo'i hun, a dynnai ei holl sylw ef. Y ffaith ganolog yw na ddarfu i Parmenides ystyried y troadau ar ei iaith ef ei hun yr oedd wrthi'n eu trin mor ddeheuig; ac nid ef fu'r olaf i fethu fel yna. Prif broblem y cyfieithydd yw dewis ffurf Gymraeg i gyfleu'r gosodiad sylfaenol, na ellir na synied na dweud ond hös esti (2. 1-4). Mai bod y mae a ddewisais i. Y ffurf gytras ag esti yw ys neu ydys, ond swyddogaeth amlwg gypladol sydd iddi. Fe wnâi y mae y tro, ond odid, ond bod iddi mor aml swyddogaeth berf gynorthwyol, a bod eisiau ffurf a gedwid yng nghymal enwol y traethu anuniongyrchol. Y mae bod y mae yn ateb y diben