Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau T. Emrys PARRY, Robert Williams Parry: astudiaeth feirniadol. Gee, 1973. £ 2. Er y cynnydd sylweddol sydd wedi digwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn beirniadaeth lenyddol gyhoeddedig yn yr iaith Gymraeg, mae bylchau anferth o hyd. Mae cyfresi fel Ysgrifau Beirniadol a chyfres pam- ffledi Aberystwyth ynghyd â chasgliadau Saesneg fel Triskel Un a Dau wedi ysgogi unigolion i ysgrifennu a chyhoeddi mwy o feimiadaeth lenyddol ac nid ydym cyn dloted ag yr oeddym. Serch hynny, mae'r bylchau'n aros. Yn y prif ieithoedd, lIe mae beirniadaeth lenyddol yn broffesiwn yn ogystal ag yn grefft, a lIe mae marchnad barod, os marchnad gyfyngedig, i weithiau ysgolheigaidd a beimiadol, y mae llyfrau tebyg i'r gyfrol hon ar Robert Williams Parry ar gael ar gyfer pob bardd o bwys yn yr iaith, ac ar gyfer llawer o feirdd cymharol ddibwys hefyd. Oherwydd fe fyddwn i'n rhoi'r gyfrol hon mewn categori arbennig, ac mae'n arwydd o dlodi cymharol ein sefyllfa feimiadol o hyd nad wyf yn gwybod am gyfrol debyg iddi sy'n delio ag unrhyw fardd Cymraeg lled-gyfoes arall. Math o sourcebook yw'r llyfr yn fwy na dim; calendr o ddigwyddiadau barddonol bywyd y bardd, arolwg manwl o darddiadau a ffynonellau cerddi, math o eiriadur barddonol ar gyfer darllen Williams Parry ychydig yn well. Ac eto, nid dyma'n hollol; ac i ryw raddau hwyrach, oherwydd peth ansicrwydd yn y bwriad mae'n syrthio rhwng dwy stôl. Mae'r awdur yn dechrau'r gyfrol swmpus hon trwy roi sylw go fanwl i nifer o gerddi cynnar y bardd, rhai ohonynt yn gerddi na roddir rhyw lawer o sylw iddynt fel arfer, a nifer ohonynt yn gerddi na fyddai unrhyw fardd o sylwedd yn awyddus iawn i'w harddel. Ond mae'r bennod yn bwysig i'r graddau y mae'n dangos agweddau'r bardd ifanc at ei grefft, ac yn bwysig hefyd oherwydd i'r awdur ymdrin ag Awdl yr Haf' yn y bennod hon. Credaf ei fod yn gywir i beidio â gosod gorbwyslais ar bwys- igrwydd Yr Haf,' ac eto mae'n dangos, yn bennaf trwy ganolbwyntio ar rai sylwadau gan rai beimiaid eraill-yn y cyswllt hwn, Gwyn Thomas, W. Hughes Jones, Alun Llywelyn Williams a Caerwyn Williams-arbenigrwydd digamsyniol yr awdur yn ei chyfnod. Y mae'r dull hwn o gasglu sylwadau nifer o feirniaid eraill a thrwy hynny greu rhyw fath ar gonsensws ynglŷn  rhyw agwedd neu'i gilydd ar farddoniaeth Williams Parry yn nodweddiadol o ddull y gyfrol, ac yn un rheswm pam yr wyf yn tueddu i feddwl am y llyfr ar ei orau fel sourcebook. Y mae'r casglu yma ar wahanol famau bob amser yn drylwyr ac yn ofalus ac yn dangos ôl darllen eang a manwl o gwmpas ei destun, ac mae hyn yn fuddiol dros ben. Yn achos Yr Haf mae'n esgor ar y farn bendant fod y gerdd, er yn perthyn i ryw raddau i gân rhamantaidd dechrau'r ganrif, ac er yn meddu ar nifer o nodweddion y fath ganu, eto'n wreiddiol ac yn wahanol mewn sawl ffordd, ac yn arbennig felly yn ei hathroniaeth sylfaenol. Gan Alun Llywelyn-Williams y mae'i awdur yn darganfod y gosodiad mwyaf positif yr unig fardd o Gymro