Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

wir anhepgor-i unrhyw ddarllenydd sydd am wneud cyfiawnder â gwaith Robert Williams Parry. Credaf fod y gyfrol fel cyfrol yn dioddef rhywfaint oherwydd diffyg unoliaeth, a chredaf fod rhai rhannau ohoni wedi tu hanelu at wahanol lefelau o gynulleidfa. Y mae'r awdur i'm tyb i, ar ei orau wrth ymdrin â cherddi cymdeithasol eu naws mewn dull cefndirol- gofiannol; yn y penodau sy'n gwneud hyn, mae'r llyfr yn drysor, yn gwneud cyfraniad gwirioneddol werthfawr i'n hymgais i ddeall naws a phersonol- iaeth cymeriad mor anodd i'w weld yn ei gyflawnder. Nid wyf fy hunan yn teimlo fod y llyfr lawn mor werthfawr pryd y mae'n ceisio cyffredinoli mwy, nac yn anelu at yr un gynulleidfa o gwbl pryd y mae'n manylu mewn ffordd gwbl wahanol, sef yn y rhan fwyaf o'r bennod hir ar y sonedau. Dechreuais trwy awgrymu fod bodolaeth sourcebook manwl a chyd- wybodol, lIe gellir cael gafael ar gefndir cerdd a manylion yn ei chylch, yn un o hanfodion sefyllfa feirniadol iach. Diolch i Emrys Parry fod y fath beth bellach i'w gael ar gyfer cyfran helaeth o waith Robert Williams Parry. 'Rwy'n sicr y bydd yn gymorth i ni ddarllen gwaith un o'n beirdd mwyaf gyda mwy o ddeall a chyda mwy o gydymdeimlad. Gellid croesawu mwy a mwy o'r math yma o lafur cariad, er mwyn dyfnhau'n hymwybyddiaeth o'r byd o brofiad sy'n gorwedd y tu ôl i bob gwir gerdd, ac er mwyn ein dysgu mai ffordd o fyw yw barddoni ac na ellir cerdded i mewn i waith bardd heb adnabod y bardd ei hun, heb fyw ar ei aelwyd a theimlo naws ei fyd. R. GERALLT JONES V D. R. Ap-Thomas (Gol), Efrydiau Beiblaidd Bangor: Cyfrol Deyrnged i'r Athro Bleddyn Jones Roberts, M.A., D.D. (Gwasg John Penry, Aber- tawe, 1973), tt. xxiv, 202. Pris £ 1.50. Ymddeolodd y Parch. Athro Bleddyn Jones Roberts o Gadair yr Hebraeg ac Efrydiau Beiblaidd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, flwyddyn yn ôl, ac ar gyfer yr achlysur hwnnw y lluniwyd y gyfrol gynhwysfawr hon o dan olygyddiaeth Mr. Dafydd R. Ap-Thomas. Fe'i bwriedir fel eyfaτ- wyddwr safonol" ar gyfer pawb sy'n ymddiddori yn y Beibl a'i neges, a cheir ynddi wyth o benodau gan ddarlithwyr o Fangor yn trafod yn fanwl ryw agwedd neu'i gilydd ar gynnwys a chefndir y Beibl ynghyd ag ysgrif- bortread o'r athro gan Dr. Elwyn Davies a llyfryddiaeth o'i waith cyhoedd- edig gan Dr. Gwilym H. Jones. Mae'n hynod o addas fod y cyhoeddiad hwn yn un cwbl Gymraeg gan fod yr athro wedi gwneud cymaint ar hyd y blynyddoedd i ledaenu dealltwriaeth ddeallus o'r Beibl yn y Gymraeg ac yn arbennig i oleuo'r werin Gymraeg ar lafar ac ar bapur mewn pynciau Beiblaidd. Bu'n gyfrwng yn wir i'w poblogeiddio," rhywbeth y mae ei wir angen ym mhob iaith, a'r hyn a wnaeth William Barclay ac A. M. Hunter yn y byd Seisnig. Oher- wydd i'r gyfrol fod yn gyfan gwbl yn Gymraeg ni fynnai Coleg Bangor gyfrannu'n ariannol tuag at ei chyhoeddi. Dyna dristwch pethau yng Nghymru heddiw-ym mha wlad arall tybed y byddai Coleg Prifysgol yn gwrthod cydnabod gwasanaeth un o'i meibion disgleiriaf yn y modd yma,-