Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eglwys geisio addasu ei ffurf-lywodraeth at anghenion cyfnod newydd. A gellir edrych ar Efengyl Ioan hithau fel ymateb i her arall a wynebai'r Eglwys yn yr un cyfnod, yr her i ail-fynegi ei ffydd mewn termau mwy dealladwy a pherthnasol i'w hamgylchfyd" (t. 131). Haera ymhellach mai ar gyfer darllenwyr Iddewig a chenhedlig y cyfansoddwyd yr Efengyl (t. 145), ac at gredinwyr ac anghredinwyr (t. 147). Dyma ateb sy'n nodweddiadol o'r duedd bresennol mewn astudiaethau Ioanaidd i wrthod casgliadau rhy bendant ynglŷn â'r Efengyl hon. Mae'n amlwg fod awdur y bennod hon yn coleddu'r un math o syniadau am ei gwerth hanesyddol â Dodd ac A. M. Hunter ac eraill. Ond dylid gofyn i ba raddau y mae'r traddodiad hanes- yddol sy'n sail i'r Bedwaredd Efengyl yn ddilys ac yn ddibynadwy? Ni cheir cyfle yma i ddod i'r afael yn iawn â'r mater pwysig hwn. Galondid i rai ohonom oedd darllen llith ddiweddar C. K. Barrett yn The Expository Times, lxxxv (Mai, 1974), tt. 228-33, yn cefnogi unwaith eto ddibyniaeth loan ar Efengyl Marc. Dyma a ddywed: It may be possible to derive a few additional historical facts from John, but his main contribution to gospel literature is not in the realm of historical information but of theological reflection upon the historical data which the sources provide" (op. cit., t. 232). Ar y llaw arall, nid oes anghydwelediad ar y ffaith mai ffrwyth myfyrio, dehongli a phregethu am yn agos i ddwy genhedlaeth yw'r camp- waith diwinyddol yma. Un arall o feddylwyr mawr yr Eglwys Fore oedd Paul, a rhoddir crynodeb o brif bwyntiau ei ddysgeidiaeth mewn pennod gan Margaret E. Thrall ar Ddiwinyddiaeth Paul." Ar y cychwyn cyfyd y cwestiwn: sut y dylid trefnu disgrifiad cyflawn ohono? Mae hi ei hun yn gwrthod cymryd unrhyw syniad unigol canolog fel allwedd i ddeall meddwl Paul. Yn hytrach, defnyddia yr Epistol at y Rhufeiniaid fel fframwaith i'w chynllun a chymer ddefnyddiau o'r Galatiaid a'r Corinthiaid i gwblhau'r darlun (t. 156). Mae'n ddiddorol sylwi felly ei bod yn mynnu cyfyngu gwaith dilys Paul i'r llythyrau hyn, ac yn hyn o beth mae'n dilyn casgliadau A. Q. Morton ar sail y cyfrifiadur. Credaf fod hyn yn cyfyngu peth ar y drafodaeth, e.e., pan ystyrir syniadau Paul am eschatoleg heb ddefnyddio Thesaloniaid (gw. e.e., W. Wiefel, Die Hauptrichtung des Wandels im eschatologischen Denken des Paulus," Theologische Zeitschrift, xxx (1974), tt. 65-81, sy'n dweud ei fod yn ei gyfyngu ei hun i'r hyn sy'n sicr yn dod o law Paul ac sy'n cynnwys 1 Thesaloniaid a Philipiaid yn ei drafodaeth), a'i Gristoleg heb ddefnyddio Colosiaid a Philipiaid. Rhennir y drafodaeth yma'n ddwy brif ran: dyn heb Grist, a gwaith Crist dros ddyn. Mae'n diweddu gyda nodyn ar Grist- oleg Paul. Nodwn yn unig yma y trafodaethau manwl a gwerthfawr ar gnawd a cyfiawnhad." Cloir y gyfrol ag ysgrif ddiddorol gan R. Tudur Jones o dan y teitl Y Beibl a Gwerin Duw yn yr Eglwys Fore" yn adrodd hanes ysgrifennu llyfrau yn yr hen fyd. Disgrifia'r chwyldro a ddigwyddodd pan ddechreuodd y Cristion ddefnyddio'r codex gwerinol yn He'r sgrol parchus. Dengys hefyd bwysigrwydd yr LXX a'r Testament Newydd ym mywyd ac yng nghenhad- aeth yr Eglwys Fore. Gyda llaw, credaf y dylid rhoi mwy o bwysau ar