Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ddeunawfed ganrif hyd at y chwedegau, pryd yr adferwyd Harris, a phrofwyd cyffroadau mawrion drachefn yn Llangeitho. Addumwyd y gwaith gan gyfeiriadau manwl at ffynonellau, atodiadau pwrpasol, llyfryddiaeth gyflawn, a mynegai. Er mwyn gosod hanes Methodistiaeth cynnar yn ei gefndir priodol, ymdrinnir yn gyntaf â'r Hen Ymneilltuwyr a chyflwr yr Eglwys Sefydledig, gan gofio cyfraniad gwerthfawr Gruffydd Jones. Yna, rhoddir sylw manwl i'r deffroadau yn Nhrefeca a Uangeitho. Gyda llwyddiant y diwygiad daeth cymhlethdod, ac fe geir penodau ar Ddatblygiad Trefn,' Y Llafurwyr Cynnar: Llenydda a Chyhoeddi' sy'n crynhoi'r defnyddiau gwasgaredig i gwmpas cyfleus a defnyddiol. Mewn pennod sy'n trafod Y Mudiad Cym- reig a Diwygwyr Lloegr,' atgoffir y darllenwyr fod y Deffroad Mawr yn fudiad byw a oresgynnodd ffin a môr. Yn sgil bywyd daeth anhrefn a dryswch, pethau digon naturiol a diniwed. Ond daeth hefyd ymbleidio ar annealltwriaeth. Y mae'r gyfrol yn wynebu helyntion stormus vr adfyw- iad a'u canlyniadau yn wrol. Gosodir allan y ffeithiau am Yr Ymraniad,' a Theulu Trefeca,' a Phobl Rowland yn ystod yr Ymraniad,' yn deg a chyda cydymdeimlad cynnil. Daw ffeithiau diddorol i'r golwg. Yn y cyfnod dan sylw yr oedd dros 500 o blwyfi yng Nghymru gyda phlwyfolion uniaith. Gan fod aelodau'r mwyafrif o'r seiadau hefyd yn Gymry uniaith (tt. 60, 409), teg yw casglu mai mudiad cynhenid, cartrefol ydoedd y DeHroad Mawr, nid rhywbeth estron a drawsblannwyd o ddiwylliant dieithr. Dyma, yn ddiamau, un o elfennau pwysicaf y Diwygiad; elfen, dylid ychwanegu, sy'n cyfrif i raddau helaeth am fesur eithriadol ei lwyddiant. Nid ffydd ail-law ydoedd ffydd y Methodistiaid, ond rhywbeth a darddai'n uniongyrchol o'r Efengyl ac o Ysbryd y Duw byw. Daeth y Deffroad Mawr ar adeg farw a thywyll yn hanes crefydd yng Nghymru. Cyfaddefa'r Dr. Tudur Jones fod duwioldeb yn llacio, brwd- frydedd yn oeri, pregethu'r Efengyl yn lleihau yn ei effeithiolrwydd ymhlith yr Hen Ymneilltuwyr (tud. 41). At hyn, rhaid cofio fod yr Eglwys Sef- ydledig yn ddiffygiol mewn disgyblaeth ac yn gloff gan gyfundrefn hen- eiddiol (tt. 62, 69). Mewn cyferbyniad i hyn rhoddir sylw priodol i eglwys- wyr ffyddlon megis GruHydd Jones a Thomas Jones, Cwm-iou, ac i Galfin- iaeth gadarn a defosiwn difrifddwys yr Hen Ymneilltuwyr. Manteisiodd y diwygiad yn fawr ar y fath gyfalaf diwinyddol, efengylaidd, ond fe gymerth dröedigaeth dyngedfennol Harris, a phregethu nerthol Rowland i esgor ar fudiad gwlad-eang. Dywed Gomer Roberts, "y dröedigaeth ryfeddol hon yw cefndir holl weithgarwch Howel Harris," ac y mae'r Dr. E. D. Jones yn sôn am sêl angerddol Rowland mewn modd cyffelyb: "Cododd cri gyffredinol am fwrw Satan allan, llanwyd y pregeth- wr a'i dynnu allan ohono'i hun, gan hiraeth ac ymdrechion i achub eneidiau tlawd (tt. 96, 158). Eneiniad, felly, neu awdurdod (i ddefnyddio hoff air Harris) ydoedd prif nodwedd y diwygiad, a hyn oedd i gyfrif am ei Iwyddiant digymar.