Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

achosion tramgwydd yn ei berthynas â'i gydweithwyr, ei uchelgais a'i styfnig- rwydd, blinder ei gorff a'i feddwl, a gwyriadau ei ddiwinyddiaeth. A hefyd, fel y dengys Mr. Owen, yr oedd eraill wrth law i roi clo ar y cytan, dylanwad niweidiol" James Beaumont, ac achos ddryslyd Madam Grillith (tt. 334, 343). Cafodd yr Ymraniad effaith fawr ar y Deffroad Mawr, gan wasgaru'r saint a dieithrio'r arweinwyr. I hanes Harris y perthyn stori Teulu Treteca yi* fwy nag i hanes Methodistiaeth, ond diddorol ydyw darganfyddiad Miss Monica Davies( t. 363) mai "Efo'r arian a gawsai (un o aelodau'r Teulu) yn iawndal yn Llundain (am erledigaeth) y prynwyd yr argraffwasg." Wrth reswm, mae cywaith fel hyn yn gadael bylchau. Fe erys rhai cwestiynau heb eu hateb. Beth oedd ansawdd y Deffroad? Beth a'i gwnaeth yn Fawr? Beth yw nodweddion gwir ddiwygiad? Beth oedd hanfodion Methodistiaeth y cyfnod? Pa mor bwysig ydoedd diwinyddiaeth Galfinaidd i'r Mudiad? Pa fodd y meddiannwyd ei arweinwyr gan gymaint awdurdod a thân, sêl a bywyd-y pethau, wedi'r cyfan, yn ôl Howel Harris, oedd vn cyfrif mewn crefydd, ac yn didoli gweinidogion? Efallai y daw rhai o'r atebion yn y gyfrol nesaf. O leiaf, mae'r gyfrol bresennol wedi creu awch amdani. Yn sicr, mae'r Gymdeithas Hanes yn haeddu pob cymeradwyaeth a chalondid i fynd ymlaen yn ffyddiog â'r gwaith. Menter go fawr ydoedd i'r Gymdeithas ymgymryd â chyhoeddi hanes Methodistiaeth Galfinaidd Cymru. Y mae'r gyfrol gyntaf wedi cyfiawnhau ffydd y cynllunwyr, ac yn sicr o gyflawni gobeithion y darllenwyr. Cyfrol safonol, gyfoethog, bwysig yw hon, i'w darllen gyda blas a bodlonrwydd. Cyfrol, yn wir, i oleuo'r meddwl, a gwresogi'r galon. Ac i'r darllenydd craff, ysbrydol, ei phrif ragoriaeth, cyfrol i greu hiraeth am ddeffroad mawr arall. Belfast. Eifion EVANS. CARADOC Prichard, Afal Drwg Adda: Hunangofiant Methiant (Gwasg Gee, 1973). Pris £ 1.50. Problem ddyrys yw sgrifennu hunangofiant. Fe all fod mwy o waith ceibio wrth lunio cofiant ond mae'r cwestiwn o ddethol yn un mwy poenus ac argyfyngus, a dyna'r cwestiwn sy'n artaith i'r hunangofiannwr.. Oni bai ei fod yn bwriadol ohirio cyhoeddi'r gwaith tan ar ôl ei ymadawiad â'r fuchedd hon, ac felly o afael cyfeillion a gelynion-er bod hynny hefyd yn dibynnu ar ei gredo ynglŷn â bywyd tu hwnt i'r llen. A rhaid iddo feddwl wedyn am ei deulu. Pa mor onest y maidd fod heb ei glwyfo'i hun neu rywun arall? Dyna un ystyriaeth. Ystyriaeth arall yw faint o ofod i'w ganiatáu i ymdrin â chymeriadau eraill y bu a wnelo ef â hwy yn ystod ei rawd. O fod yn rhy hael yn y cyswllt hwnnw mae perygl i'r hunangofiannwr fynd ar goll mewn môr o gymeriadau. O fod yn rhy gynnil bydd ef ei hun megis yn troi ymysg pypedau a'i fywyd yn debycach i garnifal nag i ymddangosiad ar lwyfan bywyd.