Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fi yn ei chôl, nad oedd gennyf bellach le i roddi fy mhen i lawr ynddi. ac ar y diwrnod du hwnnw, graddol gilio ymhellach a phellach oddi wrthi fu fy rhan. Mae yna beth dehongli cywir yn y fan yna. Yn groes i deitl nofel Hardy, the native never returns," gan nad brodor mohono ar ei ddychweliad. Ond, ar y llaw arall, tybed na allai'r bardd fod wedi gweld nad yw'r brodor- ion ychwaith yn teimlo eu bod bellach yn eu hen gymdeithas. Os oes bywyd ynddi, newid yw hanes cymdeithas. Malltod yr alltud yw gwrthod cydnabod hynny ynglŷn â Chymru. i Harri GWYNN. David Jenkins, Thomas Gwynn Jones: Cofiant (Gwasg Gee, 1973), tt. 401. Pris £ 3.00. Y syniad cyffredin am y cofiant ydyw mai hanes un gŵr am ẁr arall ydyw, a'i fod i'w gyferbynnu ar y naill law â'r nofel, lIe ceir fel rheol hanes dychmygol un person gan awdur sy'n cymryd amo wybod popeth, ac, ar y llaw arall, â'r hunangofiant Ue y mae un gŵr yn rhoi ei hanes ei hun. Nid yw'r syniad hwn yn un cyfeiliomus, ond nid yw'n un chwaith sy'n awgrymu'r holl anawsterau. Beth a olygir wrth hanes' dyn, ei hanes fel dyn cyhoeddus ynteu fel dyn preifat? Ysywaeth, yn ambell achos nid oes, i bob golwg, ddim ond y dyn cyhoeddus, a gwacter lIe y dylai'r llall fod, ac mewn ambell achos arall nid oes dim bron ond y dyn preifat. Weithiau ceir person sy'n byw yn nirgelwch ei feddwl a galon ei hun, ond oherwydd ei fod yn gorfod rhoi mynegiant iddo'i hun er mwyn cael gafael amo'i hun, megis, ni all beidio â bod yn 'gyhoeddus' hefyd, yn wir, yn fwy cyhoeddus na'r sawl sy'n 'ddyn cyhoeddus' o ddewis ac o fwriad. Un o'r rheini ydyw'r llenor. Mewn gwlad ddelfrydol fe ddylai fod Ile i'r llenor fyw wrth lenydda ac ar lenydda, ond nid oes gwledydd delfrydol, ac ychydig iawn o lenorion yn y byd diweddar sydd wedi medru byw i lenydda. Fe aned T. Gwynn Jones, ni all fod unrhyw amheuaeth, i fod yn llenor ac yn fardd, ac o dan amgylchiadau gwahanol, gellir dychmygu amdano'n byw yn bennaf fel llenor, fel y llenor Almaeneg Rilke, dyweder. Ond fe'i ganed hefyd i wlad lIe siaredir iaith na all neb obeithio byw ar lenydda ynddi ac fe'i ganed i genedl dlawd heb reolaeth ar ei bywyd ei hun ac i deulu mewn dosbarth o bobl Ile nad oedd nemor gyfleusterau addysg a diwylliant. Stori T. Gwynn Jones ydyw'r stori sut y gallodd gŵr a aned yn llenor ond heb unrhyw gyfleusterau i'w hwyluso i fod yn llenor, orchfygu'r hoM anawsterau a throi un o ieithoedd dirmygedig Ewrop yn offeryn teilwng i greu miwsig sy'n adleisio murmuron dyfnaf y galon ddynol. Dechreuodd gyda dyhead am addysg ac awch anniwall am wybodaeth ac am ddiwylliant, ond fe'i llesteiriwyd yn gynnar yn ei gynlluniau i gael addysg a'r hyn a ddeuai yn ei sgil. Wedyn troes at newyddiaduraeth, yna'n ddiwedd- arach at waith mewn llyfrgell, ac yna'n derfynol at waith mewn coleg prif- ysgol. Ar un ystyr, yr oedd y tair galwedigaeth yn anfoddhaol, a hawdd iawn y gallasai'r llenor fod wedi mynd ar goll ym mhob un ohonynt. Ond