Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU DIWEDDARAF GWASG JOHN PENRY LAND OF MY FATHERS gan Dr. Gwynfor Evans. Cyfieithiad gan Mrs. Raymond Garlick a Miss Jennifer Thomas o Aros Mae. Wrth adolygu'r llyfr hwnnw yn 1971 dywedodd yr Athro Glanmor Williams: To have produced so adroitly-organised and well-written a single volume historyf produced so adroitly-organised and well-written a single volume history of Wales is in itself an enviable feat. It is highly individual and it is conceived with artistic unity and drama. A work of piety, it glows with condescent conviction." Dyma'r union lyfr i oleuo ac argyhoeddi eich cyfeillion di-Gymraeg o hawl Cymru i fyw ei bywyd ei hun. Demy 8vo., 465 tt., 63 tt. o ddar- luniau. Pris £ 4.00. FFYDD YN Y FFAU gan y Prifathro Dr. R. Tudur Jones, y dycnaf o'n diwinyddion a'r praffaf o'n proHwydi. Trueni na ellir deddfu pob aelod eglwysig a phob aelod seneddol i'w ddarllen. Dyma dract i'r saith degau a maniffesto crefyddol i'r eglwysi yng Nghymru heddiw." — W. J. Cynwil Williams yn Barn.. Demy 8vo., 152 tt.. Pris £ 1.25. AR LAWER TRYWYDD gan Gwynfryn Richards. "Gwerth y gyfrol hon yw taflu goleuni newydd ar arferion cymdeithasol ein cyndadau. Gobeith- io'n wir y bydd yr offeiriad llengar hwn yn dal i chwilota i'n tywys ar lawer trywydd.Saunders Davies yn Barn. Demy 8vo., 132 tt. Pris £ 1.25. HWB I'R GALON gan Cassie Davies. Un o lyfrau mwyaf poblogaidd 1973- 74. Trydydd argraffiad yn awr yn barod. Dyma'r bywyd llawn "—Dr. Kate Roberts yn Y Faner. Demy 8vo., 144 tt. gyda darluniau. Pris £ 1.50. CYMRU KILVERT. Detholiad o Küvert's Diary wedi ei chyfieithu gan Trebor Lloyd Evans. Clasur bach," meddai Glyn Evans yn Y Cymro. Diolch yn wir am gyfieithu mor raenus ac i Wasg John Penry am gyoheddi gem fach o gyfrol." Llyfr Poced, 105 tt. Pris 60c. TŶ JOHN PENRY, 11 HEOL SANT HELEN, ABERTAWE, SA1 4AL Tel. 52542/52092