Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Cerdd MORFUDD LLWYN OWEN Nwyd sipsiwn rhydd a Phantycelyn sant A lifai'n ddeufor trwy d'wythiennau di, A brwydr ddi-dor 'fu rhwng priddlyd chwant A chais dy ysbryd am y pur a'i Ri. 'Roedd gwefr cyfriniaeth wrth dy gân ynghlwm, A chlod dy feistri cerdd yn ffrwd ddi-daw; Rhyw bymtheg, yn ôl sôn, â'u gwep yn drwm Am i'r Gymraes ddi-lol nacáu ei llaw! Ond collodd ef a'th gadd di cyn prynhawn, Ond nid cyn rhoddi dy aberthged ddrud Ar allor Duw y duwiau, Rhoddwr dawn, Yn ddarn o'i Nef ar ingol lwybrau'r byd. Ac er it gilio'n saith ar hugain oed Dy gân a erys tra bo dail ar goed. J. EDWARD WILLIAMS.