Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Iachâu Trwy Ffydd Agwedd Meddyg Llaw a deall dyn perffeithia, Er iachâd A rhyddhad Nefol Dad, i dyrfa. DYMA hen destun sy'n ymestyn yn ôl i oesoedd cynnar esblygiad dyn, ac y mae hefyd yn destun cyfamserol gyda mwy o ddiddordeb ynddo nag erioed o'r blaen. Cyn mentro trafod pwnc mor anodd y mae'n rhaid ceisio diffinio'r termau. Beth yw Iechyd? Yn sicr nid cyflwr o esmwythyd corfforol yn unig, pan fo dyn yn ddiboen ac yn ddiymwybod o holl weithgarwch mecan- yddol ei galon a'i ysgyfaint, ei goluddion a'i aelodau; oherwydd golyga hefyd gyflwr o gydbwysedd rhwng y corff a'r meddwl-ac i'r Cristion, â'r ysbryd yn ogystal. Y nod yw dyn cyflawn, gyda chyfanrwydd personoliaeth gytbwys a serenedd mewnol, ac y mae hynny'n gyraeddadwy heb feddu ar berffeith- rwydd iechyd corfforol. Onid oedd yr Apostol Paul yn ymwybodol o hyn? Dyma ddywed: Ac fel na'm tra-dyrchafer gan odidowgrwydd y datguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmbwl yn y cnawd, i'm cernodio, fel na'm tra-dyrchefid. Am hynny yr wyf yn foddlawn mewn gwendid canys pan yr wyf wan, yna yr wyf gadarn." Beth yw Iacháu? Dyma'r broses o adfer y corff i'w gyflwr normal ar ôl clwyf, archoll, llid neu ddamwain. Yma eto oni welir yn aml ddigon ganlyniadau boddhaol i archoll y corff tra erys creithiau meddylegol annileadwy. Y mae yna reolau naturiol i'w dilyn er sicrhau llwyddiant; gwaith meddyg yw dod i adnabod y rheolau a'u defnyddio er budd y claf. Ac nid yn unig ddeall y rheolau, dyweder, sy'n asio asgwrn toredig, ond sy'n rhoi'r dyn ar ei draed' wedyn ymhob ystyr i'r frawddeg. Nid oes digon o ofod i drin agweddau hanesyddol Iacháu, ond ar hyd y canrifoedd yr oedd dwy gyfundrefn ar waith, sef y meddygon proffesiynol yn gweithio yn ôl eu gallu (gan gofio'r llyfletheiriau gwyddonol cyn y darganfyddiadau allweddol, megis cylchrediad y gwaed, anesthesia a bacterioleg), ar y naill law; a'r triniaethwyr answyddogol ar y llaw arall. Oni ddywedodd Francis Bacon: Ymhob oes, ym marn y lliaws, yr oedd y gwiddanod, a'r hen wragedd a'r hocedwyr mewn cystadleuaeth â'r physygwyr." Ymhlith y dosbarth answyddogol yma yr oedd pob math o ymhonwyr cwbl anonest, rhai ohonynt yn dwyllwyr tafodrydd a llawer eraill yn cymryd mantais ar gyflwr hygoelus a di-grebwyll y bobl gyffredin-boed hwy werin neu fonedd. Gwelir digon o enghreifftiau o hyn yn fy nghyfrol, Ar Ffiniau Meddygaeth, 1971. Bu cysylltiad agos rhwng yr Eglwys a Meddygaeth o'r dyddiau cynharaf, gan gofio am Luc y Physygwr yn gydymaith a chydweithiwr â Phaul yr Apostol. Parhaodd y berthynas agos drwy'r Oesar Tywyll a'r Oesau Canol, ond gellir hawlio'n eithaf teg mai rhyddhad medaygaeth o reffynnau'r Eglwys Adeg y Dadeni fu'r symbyliad i'r deffroad gwyddonol cyffrous a arweiniodd, yng nghyflawnder yr amser, i sefyllfa meddygaeth heddiw. Ceidwadol iawn, fel