Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Emyn 137: Dulcis Iesu Memoria BYDD y sawl sy'n gyfarwydd â Llyfr Emynau'r Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd yn cofio am yr emyn hwn er nad o bosibl am yr un rhesymau. 'Rwyf i'n cofio amdano am dri rheswm yn gyntaf, am ei ragoriaeth fel emyn; yn ail, am fy mod i, fel golygyddion y Llyfr Emynau, wedi arfer meddwl amdano fel gwaith Sant Bernard o Clairvaux (1090-1153), yr athrylith ysbrydol a fu'n gymaint dylanwad ar yr Oesoedd Canol; ac yn drydydd, am am mai T. Gwynn Jones a'i cyfieithodd o'r Lladin i Gymraeg, a hynny, meddai, ar gais ei gyfaill, y Parch. Athro Dafydd Williams. Ceir cyfieithiad Saesneg yn y Llyfr Emynau, cyfieithiad Edward Caswall, sy'n dechrau, Jesus, the very thought of Thee With sweetness fills my breast," a gwn am gyfieithiad J. M. Neale, Jesu, the very thought is sweet In that dear name all heart- joys meet.' Darllenais gyfieithiadau eraill o bryd i'w gilydd, ond fy ffefryn yw cyfieithiad Cymraeg T. Gwynn Jones, a chan fy mod wedi cadw rhyw grap ar fy Lladin, er nad cymaint ag a fuaswn wedi hoffi, byddaf yn cym- haru'r cyfieithiad â'r gwreiddiol, i weld maint camp y cyfieithydd, ie, ac i geisio gweld beth sydd yn y naill nad ydyw yn y llall, oblegid hyd yn oed yn y cyfieithiad gorau un, fe gollir rhywbeth, a dawn arbennig y cyfieithydd da ydyw peidio â cholli ond cyn lleied fyth ag sydd bosibl a chyfadfer hyd y bo modd am bob peth a gollwyd. Dulcis Jesu memoria Pêr fydd dv gofio, Iesu da, dans vera cordi gaudia: A'r galon drist a lawenha; sed super mel et omnia Na'r mêl a'r mwvnder o bob rhyw ejus dulcis memoria. Bod gyda Thi melysach yw. Nil canitur suavius, Ni chenir cân bereiddiach ryw, auditur nil iucundius, Nid mwynach dim a glywo clyw; nil cogitatur dulcius Melvsach brvd ni wybydd dyn quam Jesus Dei filius. Nag Iesu Unmab Duw ei Hun. fesu spes paenitentibus, Ti obaith edifeiriol rai. quam pius es petentibus. Ti wrth gyfeillion druearhei, quam bonus te quaerentibus- A'th geisio. da wyt iddvnt hwy, sed quid invenientibus! I'r rhai a'th gaffo, gymaint mwy! Jesus dulcedo cordium, Goleuni pwvll, Uawenvdd brvd. fons" veri, lumen mentium A ffvnnon wyt i'r gwir i gvd: excedit omne gaudium Mw wyt na nhob boddhad dv Hun. et omne desiderium. A mwy na holl ddymuniad dyn. Nec lingua potest dicere, Ni ddvwaid tafod yn v bvd, nec littera exprimere; Nac iaith vserifen vnddo i gvd. exnertus novit tenere O'th ddîlvn Di na beth vw'r fraint: quid sit Jesum diligere. A brofodd hvn a vwτ ei faint. Dilvnais drefn y Lladin vn hytrach na threfn y cvfieithiad am mai'r drefn Ladin hon. yn ôl pob rebve. sy'n cynrychioli'r gwreiddiol orau. Gadewais allan bennill olaf y cvfieithiad Cymraeg am ddau reswm vn gyntaf, mae'r Lladin sydd gennvf i'n dechrau: Desiâerate, ond mae'n amlwg mai'r hvn a oedd yn Lladin T. Gwvnn Jones ydoedd Desiâero te: ac yn ail. mae chweched pennill v cvfieithiad vn trosi pedwervdd pennill ar bvmtheP v Lladin yn yr argraffiadau diweddaraf. Dyna ydyw, e.e., yn y fersiwn sydd