Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Braint, Braint NID fy mwriad yma yw ceisio dadansoddi daliadau diwinyddol unrhyw sect neu sectau Ffrengig; ni wnaf ond crybwyll enw Calfin gŵr a fu wedi'r cyfan yn eithriadol ei ddylanwad ar ein mudiadau crefyddol ni yng Nghymru, gymaint felly efallai nes inni dueddu i anghofio mai Ffrancwr ydoedd! Yr hyn a fwriadaf yn syml yw brasgamu, fel petai, drwy gyfnodau cyfain gan obeithio cyrraedd pen y daith yn ddiogel. Yr hyn a sbardunodd yr ymchwil hwn ym mhethau'r gorffennol oedd, nid unrhyw awydd am greu neu atgyfodi cynnen, ond digwyddiad hollol, sef imi ddod ar draws dwy nofel gan awduron cyfoes, y naill yn delio â gorffennol y mudiad Protestannaidd yn Ffrainc, a'r llall â bywyd modern yr un cynull- eidfaoedd bychain. Daeth nifer o lyfrau o law André Chamson y gellid eu cymell i sylw, yn arbennig felly ei Tour de Constance; un o gyfres yw'r nofel hon, ac efallai y cewch eich symbylu i ddarllen eraill o waith yr un awdur. Enw'r ail nofel, na chyfeirir ati'n uniongyrchol, ond a fyddai'n addas iawn i'w darllen ar y diwedd, yw un o waith Jean Carrière: L'Epervier de Maheux. Pe gofynnid i'r rhan fwyaf ohonom pa grefydd yw crefydd Ffrainc, mae'n debyg mai am y grefydd Gatholig y meddyliem. A Chatholigiaeth yw crefydd y mwyafrif, gan mai rhyw filiwn o Brotestaniaid dilynwyr Calfin y rhan fwyaf sydd yn Ffrainc i gyd. Ar y llaw arall dylid cofio nad oes a wnelo'r weriniaeth â'r Eglwys. Fe fu Concordat rhwng 1801 a 1905; ond ar ôl 19x55, pe na bai eich plant yn mynd i ysgol breifat, ni ddisgwyliech iddynt gael unrhyw fath o addysg grefyddol, na gwasanaeth boreol, na gweddi na dim. Fel hyn y cedwir y ddysgl yn wastad rhwng pawb, bônt hwy Gatholigion, Protestaniaid, Iddewon, neu fel y mae llu mawr ohonynt­- yn bobl ddifater. Daeth hyn i fod yn fwyaf arbennig wedi Chwyldro mawr 1789, ac er i weithgareddau a chanlyniadau y mudiad hwnnw fod yn gymysg iawn: yn ddrwg, yn dda, neu'n ddi-ddrwg ddi-dda, ni ellir gwadu na ddaeth — yn sgîl atheistiaeth ac agnosticiaeth a difaterwch hefyd, efallai-gyfnod hapusach o lawer i filoedd a fuasai'n dioddef oherwydd eu ffydd Brotestan- naidd (a phan ddefnyddir y gair dioddef, rhaid ei gymryd o ddifrif). Yn Ffrainc daeth y Diwygiad Protestannaidd-a gawsai afael gynnar yn Fflandrys ac yn yr Iseldiroedd, â chanrifoedd o ymrafael a rhyfela; dan Ffransis y Cyntaf, Harri'r Ail, ac ymlaen, at amser Lewis yr Unfed ar Bymtheg ni chafwyd dim heddwch ond ymrafaeI-weithiau'n fwy weithiau'n llai, rhwng Catholigion Rhufeinig a Phrotestaniaid. Cujus regio ejus religio: yn ôl y wlad y bo'r grefydd, dyna oedd y drefn yn Ffrainc. Nid oedd y fath beth â goddefgarwch; a chan fod cymaint o ddigwyddiadau hanes cynnar Ffrainc-a hanes cynnar pob gwlad arall hefyd, mae'n debyg-wedi dibynnu ar fympwy neu ar nodweddion cymeriad ei brenhinoedd, nid yw'n rhyfedd fod gwahanol grwpiau wedi ceisio eu dyrchafu eu hunain yn y llys gan ddefnyddio'r cocyn hitio nesaf atynt, sef achos y Protestaniaid, i ennill ffafr y brenin. Huguenots oedd yr enw a roddid ar B