Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

(Clywais ganu yr uchod gan wythawd y B.B.C. yn Eglwys All Souls, Langham Tlace. fore Mawrth, Ionawr 28, 1975, yn y Gwasanaeth Boreol ar y dôn Whitsun' gan Bertram Luard Selby, I853-I9I9). I ti, sy'n gwella pawb a ddêl, f Sancteiddio, rhoi d'oleuni a'th sêl Canwn Haleliwia! I ti, daeth inni'n eglur iawn Wirionedd trwy dy ddwyfol ddawn Canwn Haleliwia! I ti, ein hathro a'n ffrind di-lyth, A'n t'wysydd ffyddlon ni am byth Canwn Haleliwia! I ti, am ddoniau Crist, mor fawr, Eu coron, i drigolion llawr Canwn Haleliwia! I ti, sydd gyda'r Mab ei Hun, A Duw y Tad am byth yn Un: Canwn Haleliwia! FRANCES RIDLEY HAVERGAL. (1836-79). Cyf. D. EIRWYN MORGAN. DAU EMYN Tôn: CHRISTUS 1ST ERSTANDEN I. Y PASG Cododd Crist yr Arglwydd! Aeth heibio'n wir y dywyll awr; Crist bïau'r lawn frenhiniaeth gref. Fe daflwyd y cyhuddwr mawr, Ni chyfyd mwy i orsedd nef Haleliwia. Haleliwia. Cododd Crist yr Arglwydd! Y nefoedd, llawenhewch, a'r sêr A lawn ddisgleiria yn y nen! Y saint, cyd-genwch anthem bêr, Dyrchefwch enw Crist, eich Pen Haleliwia. Haleliwia. ISAAC WATTS, 1674-1748.