Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Crist a Chymdeithas MAE'N debyg y gwyr y rhan fwyaf am adroddiad Crwys, Rhoi'r Byd yn ei Le. Y digwyddiad sy'n gefndir y darn yw bod y Dr. Dafis wrthi'n cyfan- soddi pregeth, ond yn cael cryn drafferth i wneud hynny oherwydd bod y plant yn cadw swn. Er mwyn eu cadw'n dawel fe dynnodd fap oddi ar fur ei gell, ei dorri'n ddarnau a dweud wrth y plant am ei roi wrth ei gilydd. Cyflawnodd y plant y dasg mewn llai na hanner awr, am fod un ohonynt wedi bod yn ddigon craff i sylwi bod llun dyn yr ochr arall i'r map. Wrth roi'r dyn yn ei le, fe roesant y byd yn ei le. Mae Crwys yn cymhwyso'r darn fel hyn, bod y Dr. Dafis wedi dechrau pregeth newydd yn dweud y byddai'r ddaear fel y nefoedd ar un amod, rhoi dynion yn eu lle. Mae'r hyn a fynegir yn yr adroddiad yma wedi arwain i bwyslais unig- olyddol, pietistaidd nad oes fawr berthynas rhyngddo a dim o'i gwmpas. Mae geiriau fel hyn gan y Parch. D. Cwyfan Hughes, mai perygl mwyaf gwlad ydyw pechod. Nid arfau-rhyfel gwledydd eraill ond pechod. Nid hydrogen-bom ond pechod.1 Dyma bietistiaeth afrealistig, fel y dywedodd Dewi Eurig Davies, rhyw sglefrio dros y gwir yw dweud peth fel hyn."2 Mae'r safbwynt yma'n gadael rhai yn anesmwyth, oherwydd ei fod wedi caniatáu i bobl ganu am waed Iesu'n gwaredu a delio mewn caethwasiaeth, yn caniatáu i bobl gymryd rhan mewn ymgyrchoedd efengylaidd a 'run pryd gefnogi darpariaeth rhyfel, ac i filiwnyddion ffwndamentalaidd droi'n glust fyddar i'r gri am gyfiawnder cymdeithasol. Mae'n debyg bod annigonolrwydd y pwyslais pietistaidd i'w gael yng ngwaith Joseia yn glanhau'r Deml. Daliodd at yr un dulliau a'i ragflaenwyr yn ei berthynas â'r byd, er iddo ddiwygio'r defodau addoli. Bu'n ddigon ffôl i chwarae â gwleidyddiaeth grym, fel y dywaid Iorwerth Jones, Fe ddengys y Beibl na waredir cymdeithas trwy grefydd bur sy'n mynnu glynu wrth wleidyddiaeth amhur.3 Nid yw cael unigolion duwiol yn mynd i wneud y ddaear fel y nefoedd. Rhaid cael trefn newydd i gymdeithas. i. CRIST A CHESAR. 'Rwy'n cofio bod mewn cyfarfod o Ddosbarth yr Eifi, cylch fy nghartref yn Llŷn. Ni chofiaf beth oedd y mater, ond fe gofiaf mai'r agorwr oedd blaenor tu hwnt o ddiwylliedig o'r Ffôr, William Griffith. Fe soniodd lawer, yn ôl ei arfer, am gymdeithas ac achub cymdeithas, ac yn y drafodaeth a ddilynodd ei agoriad, fe ddywedodd rhyw frawd, Hyd y gwn i, nid yw Crist wedi sôn yr un gair am wleidyddiaeth." Ond meddai William Griffith, "Fe hoffwn ateb hwnna. Mae Crist wedi dweud mwy am wleidyddiaeth *Anerchiad a draddodwyd yn Seion, Wrecsam, mewn cyfarfod cyhoeddus dan nawdd Henaduriaeth Dwyrain Dinbych, nos Lun, Tachwedd 24, r975.