Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Helyntion Cynnar Cynddylan UN o gymeriadau mwyaf lliwgar ei gyfnod oedd John Cynddylan Jones (1841-1930), gŵr a gafodd sylw yn Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (t. 455), a thrachefn yn yr Atodiad a gyhoeddwyd yn 1970 (t. 117). Nid oes sôn am ei rieni yn y naill nodyn neu'r llall, sef John ac Ann Jones. Bu'r ddeuddyn yn byw am flynyddoedd yn y Frongoch-fach a Phenclawddhelyg, Capel Dewi, plwyf Llanbadarn Fawr, Ceredigion. Bu Ann farw yn niwedd 1887, ac ym Mai 1889 symudodd John i fyw at ei fab, a drigai'r pryd hynny yn yr Eglwysnewydd ar bwys Caerdydd1 'Roedd y rhieni'n ddigon cefnog i anfon eu mab am ryw dymor i ysgol enwog John Evans, Aberystwyth. Penodwyd ef a John Rhys, Ponterwyd-Syr John Rhys ar ôl hynny-yn ddisgybl- athrawon yn ysgol ddyddiol Pen-llwyn. Dywedir na allai'r prifathro bender- fynu ar y pryd p'run o'r ddau oedd y gorau. Gwyddys ei fod yn yr ysgol honno adeg Sasiwn Ordeinio Awst Llangeitho yn 1859.2 A sôn am 1859, cofiai Cynddylan am gyfarfod cyntaf Dafydd Morgan y Diwygiwr ym Mhen-llwyn yn nechrau mis Rhagfyr 1859. Dyna'r pryd y taniwyd Thomas Edwards (brawd Lewis Edwards), ac y deffrôdd ei ddawn weinidogaethol.0 Dylanwadodd y diwygiad ar Gynddylan yntau, ac ef yn llanc deunaw oed ar y pryd. Un o'i arwyr yn y cyfnod hwnnw oedd Griffith Davies, a ymsefydlodd yn Aberystwyth ar ôl ei briodas ag un o ferched y dref yn 1858, ac a ordeiniwyd yn 1859. Ef oedd arloesydd achos Saesr^g y Methodistiaid yn y dref. Pregethai bob Sul, yn enwedig yn nhymor dylifiad ymwelwyr o Saeson i'r dref ym misoedd yr haf, yn y Neuadd Ddirwestol. Mynychai Cynddylan yr oedfaon Saesneg hynny, a dyna'r pryd (meddai ef ei hunan) y swyngyfarwyddwyd ef ac yr ymserchodd yn y weinidogaeth Saesneg. Dechreuwyd cyhoeddi'r Arweinydd yn Ionawr 1862 dan olygydd- iaeth Griffith Davies a Thomas Edwards, Pen-llwyn. Dechreuodd Cynddylan ysgrifennu i'r cylchgrawn bychan hwnnw. Traddododd araith, pan oedd ei fryd ar ddechrau pregethu, ar Nerth y Beibl" mewn cyfarfod dau-fisol yn y Tabernacl. Ni welai'r hen arweinwyr Methodistaidd yn y dref rith o ragoriaeth yn yr areithiwr na'r araith; ond er syndod i bawb fe'i cyhoeddwyd gan Griffith Davies yn Yr Arweinydd* Ai'r adeg yma, tybed, yr agorodd Cynddylan ysgol yn Aberystwyth? Cedwid hi dros gyfnod mewn adeilad yn agos i safle cloc y dref, ar gyfer ymgeiswyr am y weinidogaeth a bechgyn â'u bryd ar fasnach a morwriaeth. Ymddangosodd cyfres o ysgrifau o waith David Samuel ar hen ysgolion ac ysgolfeistri Aberystwyth yn y Cymru coch yn 1901, eithr ni cheir cyfeiriad o gwbl at ysgol Cynddylan yn y gyfres honno. Fe awgryma hynny ond odid na fu rhyw fri mawr ar ei ysgol. Symudodd Cynddylan i Lundain rywbryd yn y cyfnod yma, neu, fel y dywedai ef ei hun, Arweiniodd rhagluniaeth ni i ysgol yn Llundain." Pa ysgol oedd honno tybed ? Bu yn Llundain am ddeunaw mis, a chafodd y fraint o eistedd dan weinidogaeth Owen Thomas a David Charles Davies vn Jewin Crescent. Ar ôl gwrando ar y cyntaf un pen o'r Sul taerai mai ef